Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen A fuasech chi’n rhoi 10kg o siwgr i’ch plentyn?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > A fuasech chi’n rhoi 10kg o siwgr i’ch plentyn?
Pobl a lle

A fuasech chi’n rhoi 10kg o siwgr i’ch plentyn?

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 17, 2018 12:04 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
A fuasech chi’n rhoi 10kg o siwgr i’ch plentyn?
RHANNU

Yr hyn sy’n frawychus yw bod nifer o blant eisoes yn bwyta llawer mwy na 10kg o siwgr bob blwyddyn!

Cynnwys
  • Wyddoch chi?
  • Byrbrydau 100 Calori
  • Sut i chwilio am 100 calori
  • Byrbrydau yr ydych yn eu gwneud eich hun
  • Gadael ar y silff

Pan mae’n amser cael rhywbeth bach i’w fwyta, fe all fod yn anodd os yw eich plant yn swnian neu yn helpu eu hunain i unrhyw beth yr hoffant o’r cypyrddau.

Ond mae’r byrbrydau i gyd yn cyfrif – ac mae mwy o siwgr ynddynt nac y byddech yn tybio.

Wyddoch chi?

Daw hanner y siwgr y mae plant yn ei fwyta a’i yfed bob blwyddyn o fyrbrydau a diodydd llawn siwgr rhwng prydau – mae hynny’n 10kg o siwgr bob blwyddyn cyn iddynt fwyta pryd hyd yn oed!

Gall gormod o siwgr arwain at fraster niweidiol yn cronni y tu mewn i’r corff a phroblemau iechyd difrifol, gan gynnwys pydredd dannedd poenus. Ffrwythau a llysiau yw’r dewis gorau bob amser, ond os ydych yn siopa am fyrbrydau wedi eu pecynnu i’ch plant, defnyddiwch y cyngor hwn: edrychwch am fyrbrydau gyda 100 o galorïau, dim mwy na dau y dydd!

CYFRIF SNAPCHAT I WRECSAM.

Byrbrydau 100 Calori

    • Sleisen o dorth frag
    • Fromage frais gyda baster is a siwgr is (rhai blasau yn cynnwys mefus, mafon, banana, bricyll)
    • Salad ffrwythau ffres neu dun
    • Llysiau wedi eu torri a hwmws braster is
    • Cacennau reis plaen neu gracers gyda chaws braster is
    • Jeli heb siwgr
    • Un crympet
    • Un grempog Sgotaidd

Gall y byrbrydau hyn gynnwys 100 calori neu lai, ond mae’r cynnyrch yn amrywio felly cofiwch edrych ar y label bob amser. Mae cnau a hadau yn fyrbrydau iachach, ond maent yn uchel mewn egni, felly cofiwch gadw llygad ar faint gaiff ei fwyta a pheidiwch â rhoi cnau cyfan i blant o dan 5 oed.

Sut i chwilio am 100 calori

Gallwch brynu byrbrydau sy’n 100 calori ac yn is mewn siwgr. Mae labeli goleuadau traffig ar nifer o gynnyrch a hynny ar flaen y pecyn. Caiff y calorïau eu cynnwys ar ochr chwith y labeli hyn. Dewiswch fyrbrydau gyda mwy o wyrdd ac oren ar y label, ac ewch ati i leihau byrbrydau sy’n dangos unrhyw goch. Nid oes gan bob bwyd sydd wedi ei becynnu labeli goleuadau traffig, ond gallwch ganfod yr hyn sydd angen ei wybod arnoch am eich byrbrydau gyda’r ap Sganiwr Bwyd Newid am Oes sydd ar gael o’r Storfa Ap neu Google Play.

Byrbrydau yr ydych yn eu gwneud eich hun

Gallwch hefyd arbed arian drwy baratoi byrbrydau iach eich hun. Ffrwythau a llysiau ffres, tun neu wedi eu rhewi yw’r dewis gorau fel byrbryd bob amser, ond gallwch roi cynnig ar sgons, popgorn cartref neu omledau bach wedi eu gwneud mewn hambyrddau myffin.

Gadael ar y silff

Ond y tric hawsaf i’w gofio yw– os nad oes gennych chi felysion yn y tŷ, yna allwch chi ddim eu bwyta ac fe fyddwch yn arbed arian hefyd!

Am fwy o wybodaeth ewch i http://change4lifewales.org.uk/families/?skip=1&lang=cy

Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://newyddion.wrecsam.gov.uk/cyfrif-snapchat-i-wrecsam/”] DILYNWCH NI AR SNAPCHAT [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Patrôl Baw Cŵn Patrôl Baw Cŵn
Erthygl nesaf Rydym newydd gymryd camau enfawr ar gyfer dyfodol tai cyngor .. Rydym newydd gymryd camau enfawr ar gyfer dyfodol tai cyngor ..

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
DigwyddiadauPobl a lle

Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr

Awst 26, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English