Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Rydym newydd gymryd camau enfawr ar gyfer dyfodol tai cyngor ..
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Rydym newydd gymryd camau enfawr ar gyfer dyfodol tai cyngor ..
Pobl a lleY cyngor

Rydym newydd gymryd camau enfawr ar gyfer dyfodol tai cyngor ..

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 17, 2018 5:18 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Rydym newydd gymryd camau enfawr ar gyfer dyfodol tai cyngor ..
RHANNU

Efallai y bydd tai cymdeithasol y cyngor yn cael eu hadeiladau yn Wrecsam cyn bo hir.

Cynnwys
  • Bydd tai newydd yn helpu i ddiwallu’r angen am dai modern
  • Beth sy’n digwydd nesaf
  • Ffocws ar dai pobl ag anghenion ychwanegol

Yn gynharach yr wythnos hon, cymeradwyodd bwrdd gweithredol y Cyngor y gwaith i ddymchwel hen gartref gofal Nant Silyn ym Mharc Caia. Unwaith mae’r gwaith dymchwel wedi cael ei gwblhau, y cynllun yw adeiladu 12 tŷ newydd y cyngor ar y safle.

Mae’r adeilad wedi bod ar gau ers 2015 â’i ffenestri dan goed ac wedi’i ddiogelu yn dilyn adroddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol ger y safle.

CYFRIF SNAPCHAT I WRECSAM.

Bydd tai newydd yn helpu i ddiwallu’r angen am dai modern

Rydym yn gallu prynu’r tir nawr ar gyfer pwrpasau adeiladu tai cymdeithasol newydd, diolch i’r cynllun Adeiladu a Phrynu a gafodd ei gymeradwyo yn 2015.

Yn yr achos hwn, mae tir Nant Silyn eisoes yn perthyn i’r cyngor, felly bydd perchnogaeth nawr yn cael ei drosglwyddo i Gyfrif Refeniw Tai’r Cyngor fel bod y cynllun tai newydd yn gallu mynd yn ei flaen.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Wrecsam, y Cynghorydd Mark Pritchard: “Rydym wedi cymryd y cam cyntaf tuag at adeiladu’r tai cyngor newydd cyntaf yn Wrecsam ers sawl blwyddyn felly mae hyn yn arwydd calonogol iawn.

“Byddwn nawr yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartner arall i adeiladu 12 tŷ newydd ar y safle hwn.

“Mae gofyn am dai modern yr unfed ganrif ar hugain yn y fwrdeistref sirol, ac rydw i’n falch iawn ein bod mynd i’r afael â’r gwaith i wneud i hyn ddigwydd. Bydd llawer mwy o gynlluniau fel hyn i ddod yn y dyfodol gobeithio.

“Rydym hefyd wedi bod yn buddsoddi ffigyrau anferth – £56.4m yn 2017/18 yn unig – i foderneiddio ein stoc dai presennol felly mae hyn yn dangos bod dyfodol disglair iawn i dai cymdeithasol yn Wrecsam.”

Beth sy’n digwydd nesaf

Y cam nesaf fydd cael cymeradwyaeth i’r caniatâd cynllunio a sicrhau ein bod yn gallu derbyn rhaglenni nawdd Llywodraeth Cymru i gefnogi’r prosiect adeiladu.

Mae Grant Cyllid Tai ar gael i’r Cyngor a dyraniad dangosol y nawdd yw £1.6m yn 2018/19 gyda £1.1m ychwanegol yn 2019/20. Mae’r nawdd yn cael ei ddarparu gan Llywodraeth Cymru i gefnogi ei ymrwymiad i ddarparu 20,000 o dai fforddiadwy newydd o fewn ei thymor presennol.

Ffocws ar dai pobl ag anghenion ychwanegol

Dywedodd y Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Y cynllun yw ailddatblygu safle’r gartref gofal ac adeiladu tai newydd a fydd yn canolbwyntio ar dai wedi’u haddasu ar gyfer pobl ag anghenion ychwanegol. Rydw i’n hapus iawn bod y cynllun wedi cael cymeradwyaeth i symud ymlaen.”

Dywedodd Aelod Lleol Smithfield, y Cynghorydd Adrienne Jeorrett: “Rydw i’n falch iawn mai Smithfield cafodd ei ddewis fel yr ardal gyntaf i dderbyn tai newydd arfaethedig y cyngor. Mae hyn yn newyddion gwych i’r ardal leol ac mae’n dangos ein bod ni nawr yn gweithredu i sicrhau ein bod yn bodloni’r angen ar gyfer tai yn yr ardal.”

Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://newyddion.wrecsam.gov.uk/cyfrif-snapchat-i-wrecsam/”] DILYNWCH NI AR SNAPCHAT [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol A fuasech chi’n rhoi 10kg o siwgr i’ch plentyn? A fuasech chi’n rhoi 10kg o siwgr i’ch plentyn?
Erthygl nesaf Brysiwch! Ewch i brynu’ch tocynnau ar gyfer Sinema Awyr Agored Diwrnod y Cariadon Brysiwch! Ewch i brynu’ch tocynnau ar gyfer Sinema Awyr Agored Diwrnod y Cariadon

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lle Y cyngor
Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Blue emergency services light
ArallPobl a lle

Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Pobl a lle

Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

Medi 1, 2026
Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English