Efallai y byddwch wedi clywed fod y Llywodraeth yn newid y system budd-daliadau ar draws y wlad.
Un o’r newidiadau mwyaf yw cyflwyniad Credyd Cynhwysol a fydd yn dechrau yn Wrecsam o 4 Hydref 2017.
Felly os bydd eich amgylchiadau chi’n newid, er enghraifft os ydych yn mynd yn ddi-waith, bydd yn rhaid i chi wneud hawliad am Gredyd Cynhwysol.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Beth yw Credyd Cynhwysol?
- Mae Credyd Cynhwysol yn un taliad misol sengl a fydd yn cael ei dalu yn lle rhai budd-daliadau eraill ar gyfer pobl o oed gweithio, gan gynnwys Budd-dal Tai.
- Hyd yma, dim ond pobl sengl sy’n chwilio o’r newydd am swydd all hawlio Credyd Cynhwysol, ond bydd hyn yn newid fis Hydref 2017. O hyn ymlaen bydd Credyd Cynhwysol yn dechrau cael ei gyflwyno ar lawer o bobl sydd angen gwneud cais newydd am fudd-daliadau neu gredydau trete.
Pethau pwysig i’w cofio os ydych yn denant i’r Cyngor sy’n hawlio Credyd Cynhwysol
- Mae unrhyw help yr ydych yn ei gael gyda’ch rhent yn debygol o gael ei gynnwys gyda’ch Credyd Cynhwysol.
- Bydd faint fyddwch yn ei gael yn dibynnu ar eich amgylchiadau, gan gynnwys eich incwm a faint o blant sydd gennych chi.
- Bydd Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu’n syth i’ch cyfrif banc.
- Ar hyn o bryd mae budd-dal tai llawer o denantiaid sy’n ei hawlio yn cael ei dalu’n uniongyrchol i’r landlord. Un gwahaniaeth pwysig gyda Chredyd Cynhwysol yw y bydd yr holl daliadau yn mynd yn syth i’ch cyfrif banc chi. Mae hyn yn golygu mai chi fydd yn gyfrifol am dalu eich rhent.
- Cofiwch – os ydych yn denant i’r Cyngor, bydd yn rhaid i chi roi gwybod i Gredyd Cynhwysol os bydd eich rhent yn codi neu’n gostwng er mwyn iddyn nhw allu sicrhau eich bod yn derbyn y swm cywir.
- Bydd disgwyl i’r rhan fwyaf o bobl hawlio Credyd Cynhwysol ar-lein (manylion i’w gweld yn y rhestr isod).
Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros Dai, y Cyng. David Griffiths: “Mae Credyd Cyffredinol yn wahanol iawn i’r system budd-daliadau a oedd yn ei rhagflaenu ac rydym yn ymwybodol y gallai’r newidiadau effeithio ar lawer o’n tenantiaid, yn enwedig y rhai a ddefnyddiwyd i’w Budd-dal Tai yn cael eu talu i’w cyfrif rhent. Bydd disgwyl iddynt dalu’r rhent eu hunain nawr.
“Mae’n hollbwysig bod tenantiaid yn parhau i talu eu rhent cyn mynd i ôl-ddyledion. Fodd bynnag, rydym yn deall efallai y bydd oedi a materion eraill gyda derbyn taliadau felly byddwn yn cynnig cymorth ac arweiniad i denantiaid yr effeithir arnynt.
“Byddwn yn annog unrhyw denantiaid sy’n credu y gallai Credyd Cyffredinol effeithio arnynt i gysylltu â’u swyddfa ystad cyn gynted ā phosib. Bydd ein Swyddogion Tai yn fwy na pharod i helpu. ”
Lle i gael cyngor a gwybodaeth
- Os ydych yn denant i’r cyngor ac yn poeni am fynd i ôl-ddyled o ganlyniad i Gredyd Cynhwysol (neu unrhyw reswm arall), cofiwch siarad â’ch swyddfa ystâd cyn gynted â phosibl er mwyn cael cyngor.
- I gael gwybod mwy am Gredyd Cynhwysol ac i wneud hawliad ewch i: www.gov.uk/universal-credit
- Gallwch hefyd gysylltu â Uned Hawliau Lles Cyngor Wrecsam am gyngor.
- Mae’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol a gefnogir gan y Llywodraeth yn cynnig cyngor ariannol am ddim, diduedd: www.moneyadviceservice.org
- Mae Turn2us yn elusen genedlaethol sy’n helpu pobl mewn caledi ariannol i gael budd-daliadau lles, grantiau elusennol a gwasanaethau cefnogi – www.turn2us.org.uk
- Os nad ydych chi’n denant cyngor, ond credwch y bydd Credyd Cynhwysol yn effeithio arnoch, ewch i www.gov.uk/universal-credit i gael rhagor o wybodaeth.
Gallwch gael newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam gyda Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI