Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen A fydd Credyd Cynhwysol yn effeithio ar Denantiaid Cyngor Wrecsam? Darllenwch ymlaen……
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > A fydd Credyd Cynhwysol yn effeithio ar Denantiaid Cyngor Wrecsam? Darllenwch ymlaen……
Pobl a lleY cyngor

A fydd Credyd Cynhwysol yn effeithio ar Denantiaid Cyngor Wrecsam? Darllenwch ymlaen……

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 3, 2017 3:10 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Cost of Living
RHANNU

Efallai y byddwch wedi clywed fod y Llywodraeth yn newid y system budd-daliadau ar draws y wlad.

Cynnwys
  • Beth yw Credyd Cynhwysol?
  • Pethau pwysig i’w cofio os ydych yn denant i’r Cyngor sy’n hawlio Credyd Cynhwysol
  • Lle i gael cyngor a gwybodaeth

Un o’r newidiadau mwyaf yw cyflwyniad Credyd Cynhwysol a fydd yn dechrau yn Wrecsam o 4 Hydref 2017.

Felly os bydd eich amgylchiadau chi’n newid, er enghraifft os ydych yn mynd yn ddi-waith, bydd yn rhaid i chi wneud hawliad am Gredyd Cynhwysol.

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

Beth yw Credyd Cynhwysol?

  • Mae Credyd Cynhwysol yn un taliad misol sengl a fydd yn cael ei dalu yn lle rhai budd-daliadau eraill ar gyfer pobl o oed gweithio, gan gynnwys Budd-dal Tai.
  • Hyd yma, dim ond pobl sengl sy’n chwilio o’r newydd am swydd all hawlio Credyd Cynhwysol, ond bydd hyn yn newid fis Hydref 2017. O hyn ymlaen bydd Credyd Cynhwysol yn dechrau cael ei gyflwyno ar lawer o bobl sydd angen gwneud cais newydd am fudd-daliadau neu gredydau trete.

Pethau pwysig i’w cofio os ydych yn denant i’r Cyngor sy’n hawlio Credyd Cynhwysol

  • Mae unrhyw help yr ydych yn ei gael gyda’ch rhent yn debygol o gael ei gynnwys gyda’ch Credyd Cynhwysol.
  • Bydd faint fyddwch yn ei gael yn dibynnu ar eich amgylchiadau, gan gynnwys eich incwm a faint o blant sydd gennych chi.
  • Bydd Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu’n syth i’ch cyfrif banc.
  • Ar hyn o bryd mae budd-dal tai llawer o denantiaid sy’n ei hawlio yn cael ei dalu’n uniongyrchol i’r landlord.  Un gwahaniaeth pwysig gyda Chredyd Cynhwysol yw y bydd yr holl daliadau yn mynd yn syth i’ch cyfrif banc chi. Mae hyn yn golygu mai chi fydd yn gyfrifol am dalu eich rhent.
  • Cofiwch – os ydych yn denant i’r Cyngor, bydd yn rhaid i chi roi gwybod i Gredyd Cynhwysol os bydd eich rhent yn codi neu’n gostwng er mwyn iddyn nhw allu sicrhau eich bod yn derbyn y swm cywir.
  • Bydd disgwyl i’r rhan fwyaf o bobl hawlio Credyd Cynhwysol ar-lein (manylion i’w gweld yn y rhestr isod).

Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros Dai, y Cyng. David Griffiths: “Mae Credyd Cyffredinol yn wahanol iawn i’r system budd-daliadau a oedd yn ei rhagflaenu ac rydym yn ymwybodol y gallai’r newidiadau effeithio ar lawer o’n tenantiaid, yn enwedig y rhai a ddefnyddiwyd i’w Budd-dal Tai yn cael eu talu i’w cyfrif rhent. Bydd disgwyl iddynt dalu’r rhent eu hunain nawr.

“Mae’n hollbwysig bod tenantiaid yn parhau i talu eu rhent cyn mynd i ôl-ddyledion. Fodd bynnag, rydym yn deall efallai y bydd oedi a materion eraill gyda derbyn taliadau felly byddwn yn cynnig cymorth ac arweiniad i denantiaid yr effeithir arnynt.

“Byddwn yn annog unrhyw denantiaid sy’n credu y gallai Credyd Cyffredinol effeithio arnynt i gysylltu â’u swyddfa ystad cyn gynted ā phosib. Bydd ein Swyddogion Tai yn fwy na pharod i helpu. ”

Lle i gael cyngor a gwybodaeth

  • Os ydych yn denant i’r cyngor ac yn poeni am fynd i ôl-ddyled o ganlyniad i Gredyd Cynhwysol (neu unrhyw reswm arall), cofiwch siarad â’ch swyddfa ystâd cyn gynted â phosibl er mwyn cael cyngor.
  • I gael gwybod mwy am Gredyd Cynhwysol ac i wneud hawliad ewch i: www.gov.uk/universal-credit
  • Gallwch hefyd gysylltu â Uned Hawliau Lles Cyngor Wrecsam am gyngor.
  • Mae’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol a gefnogir gan y Llywodraeth yn cynnig cyngor ariannol am ddim, diduedd: www.moneyadviceservice.org
  • Mae Turn2us yn elusen genedlaethol sy’n helpu pobl mewn caledi ariannol i gael budd-daliadau lles, grantiau elusennol a gwasanaethau cefnogi – www.turn2us.org.uk
  • Os nad ydych chi’n denant cyngor, ond credwch y bydd Credyd Cynhwysol yn effeithio arnoch, ewch i www.gov.uk/universal-credit i gael rhagor o wybodaeth.

Gallwch gael newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam gyda Fy Niweddariadau.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrexham arts hub Digwyddiadau ac arddangosfeydd sydd eisoes wedi eu trefnu yn Nhŷ Pawb – darllenwch fwy yma!
Erthygl nesaf tWIG ar Dost – y celfyddydau’n boblogaidd yn Wrecsam tWIG ar Dost – y celfyddydau’n boblogaidd yn Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Pobl a lle

Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni

Awst 11, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English