Ydych chi’n rhan o grŵp cymunedol neu sefydliad a allai ddarparu lle cynnes i unigolion neu deuluoedd diamddiffyn?
Mae Cyngor Wrecsam wedi cael cyllid gwerth £64,000 i’w ddefnyddio i gefnogi holl lyfrgelloedd Wrecsam a Hwb Wrecsam i ddarparu canolfannau clyd, yn ogystal â chynllun grantiau bach i sefydliadau a grwpiau wneud cais am hyd at £5,000.
Os ydych yn teimlo y gallai eich sefydliad neu grŵp ddarparu canolfan glyd, gallwch e-bostio warmplaces@wrexham.gov.uk am ragor o wybodaeth ac i gofrestru i dderbyn pecyn ymgeisio ar gyfer cyllid gaeaf 2024/25.
Beth fydd y cyllid yn ei gynnwys?
Bydd ceisiadau llwyddiannus am gyllid yn dibynnu ar beth allwch chi ei gynnig. Er enghraifft, bydd mwy o gyllid ar gael os ydych yn gallu darparu prydau poeth neu agor gyda’r nos / ar benwythnosau.
Dywedodd y Cynghorydd Claire Lovett, cadeirydd y gweithgor swyddogion ac aelodau costau byw: “Wrth i’r tywydd oeri, bydd trigolion yn gwerthfawrogi canolfannau clyd yn fwy fel rhywle croesawgar i fynd. Os ydych chi’n grŵp neu sefydliad yn Wrecsam, dylech ystyried gwneud cais am y grant i wneud bywyd ychydig yn haws i bobl yn eich cymuned.”
Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, aelod arweiniol sy’n gyfrifol am wrth-dlodi: “Hoffem weithio gyda grwpiau cymunedol a sefydliadau i sicrhau bod digon o leoedd ar gael ledled y fwrdeistref sirol y gall pobl fynd iddynt i gadw’n gynnes. “Os yw unrhyw sefydliad neu grŵp cymunedol yn gallu darparu lle cynnes y gaeaf hwn, rydym eisiau clywed gennych.
Beth sy’n digwydd mewn llyfrgelloedd?
Bydd llyfrgelloedd yn cynnig mynediad at hunanwasanaeth diodydd poeth a p’un a ydych yn ymwelydd rheolaidd neu’n newydd i’r llyfrgell, bydd modd i chi gael mynediad at:
- Wi-Fi
- Cyfrifiaduron
- Papurau newydd dyddiol
- Llyfrau ffuglen a gwybodaeth
- Gweithgareddau a digwyddiadau’r llyfrgell, y rhan fwyaf yn rhad ac am ddim
I ddarganfod pryd mae llyfrgelloedd Wrecsam ar agor, ewch i dudalen we llyfrgelloedd lleol ar wefan y cyngor.
Beth sy’n digwydd yn yr Hwb Lles?
Bydd yr Hwb Lles hefyd yn darparu canolfan glyd a byddant yn defnyddio eu cyllid i ddarparu te, coffi a siocled poeth i unrhyw un sy’n cael anhawster dros fisoedd y gaeaf. Bydd modd i chi gynhesu a chadw’n gynnes, eistedd ar y soffa a mwynhau amrywiaeth o gemau bwrdd, posau a chael mynediad cyhoeddus at iPads yn rhad ac am ddim.
Bydd ymgynghorwyr yr Hwb Lles hefyd wrth law i ddarparu gwybodaeth am amrywiaeth o wasanaethau lles, a allai fod yn fuddiol y gaeaf hwn gan gynnwys darparu bwyd, ynni, banc data, cwnsela, cymorth iechyd meddwl, cymorth profedigaeth, grwpiau cymunedol a chymorth i deuluoedd.