Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Trefniadau Gweithio Cyngor Wrecsam dros y Nadolig 2024
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Photo showing the eisteddfod site on a bright day with clear blue skies. The huge eisteddfod letters are in he foreground with the main pavillion in the background.
Cynllun mynediad am ddim i’r Eisteddfod i deuluoedd lleol ar incwm isel
Digwyddiadau Pobl a lle
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Busnes ac addysg
trees
Fandaleiddio coed ym Mhlas Madog yn ennyn dicter y gymuned
Pobl a lle
9000
Wrecsam yn dathlu plannu dros 9000 o goed newydd
Pobl a lle Y cyngor
Ty Mawr
Parciau gwledig Wrecsam o’r awyr
Fideo Pobl a lle Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Trefniadau Gweithio Cyngor Wrecsam dros y Nadolig 2024
Y cyngor

Trefniadau Gweithio Cyngor Wrecsam dros y Nadolig 2024

Ni fydd rhai o adeiladau swyddfeydd y ddinas ar agor i’r cyhoedd, ond byddwn yn parhau i weithredu gwasanaethau hanfodol…

Diweddarwyd diwethaf: 2024/12/18 at 1:10 PM
Rhannu
Darllen 5 funud
Estyn
RHANNU

Bydd y rhan fwyaf o adeiladau swyddfeydd Cyngor Wrecsam ar gau rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd – er y bydd y gwasanaethau hanfodol yn parhau i gael eu gweithredu.

Cynnwys
Canolfannau CyswlltTaiGofal CymdeithasolGwasanaethau CofrestruCasgliadau GwastraffCanolfannau Ailgylchu Gwastraff y CartrefTŷ PawbLlyfrgelloedd

Mae llawer o Gynghorau ar draws Cymru a gweddill y DU yn cwtogi gwasanaethau dros gyfnod y Nadolig, oherwydd y galw isel a’r gost o gadw adeiladau ar agor.

Eleni, bydd y Cyngor yn cau ei swyddfeydd ar Stryt y Lampint, Adeiladau’r Goron a Ffordd Rhuthun tua hanner dydd, ddydd Mawrth 24 Rhagfyr. Bydd yr adeiladau ar gau tan ddydd Iau, 2 Ionawr.

Trwy gau’r adeiladau hyn bydd y Cyngor yn cyflawni arbedion o ran costau nwy a thrydan.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Bydd ein gwasanaethau hanfodol yn parhau i weithredu. Mae’r rhain yn cynnwys timau ymateb brys priffyrdd a’r amgylchedd, cymorth ac atgyweirio tai a gwasanaethau gofal cymdeithasol penodol – er y bydd rhai gwasanaethau’n cael eu cwtogi.

Canolfannau Cyswllt

Bydd Galw Wrecsam (ein canolfan gyswllt wyneb yn wyneb yn Llyfrgell Wrecsam) yn cau am 12pm ddydd Mawrth, 24 Rhagfyr a bydd yn ailagor ddydd Iau, 2 Ionawr.

Dyma’r oriau agor / cau ar gyfer ein canolfan gyswllt dros y ffôn (01978 292000):

  • Dydd Mawrth, 24 Rhagfyr – yn cau am 12pm.
  • Dydd Mercher, 25 Rhagfyr (Dydd Nadolig) – ar gau.
  • Dydd Iau, 26 Rhagfyr (Gŵyl San Steffan) – ar gau.
  • Dydd Gwener 27 Rhagfyr – ar gau.
  • Dydd Llun, 30 Rhagfyr – ar agor rhwng 9am a 4pm gyda gwasanaeth cyfyngedig.
  • Dydd Mawrth, 31 Rhagfyr – ar agor rhwng 9am a 4pm gyda gwasanaeth cyfyngedig.

Cofiwch – mae modd cael mynediad at wasanaethau’r Cyngor ar-lein 24/7.

Tai

Bydd yr holl swyddfeydd ystadau tai ar gau o 12pm ddydd Mawrth, 24 Rhagfyr tan ddydd Iau, 2 Ionawr.

Gallwch roi gwybod i’r Cyngor am unrhyw faterion tai ar y rhifau ffôn canlynol:

  • Atgyweiriadau tai (24 awr) – ffoniwch 01978 298993. Ar ôl oriau gwaith yn unig, gallwch hefyd anfon e-bost at wrexhamemergency@deltawellbeing.org.uk
  • Digartrefedd – gallwch ffonio ein Tîm Dewisiadau Tai (24 awr) ar 01978 292947.

Gofal Cymdeithasol

Rhwng 12pm ddydd Mawrth, 24 Rhagfyr a 8.30am dydd Iau, 2 Ionawr bydd gofal cymdeithasol yn darparu gwasanaeth hanfodol mewn argyfwng yn unig.

Rhwng 8.30am a 5pm 28, 30 a 31 Rhagfyr, ar gyfer materion brys mewn perthynas â gofal cymdeithasol i blant, ffoniwch 01978 292039.

Ar gyfer materion brys (yn cynnwys rhyddhau o’r ysbyty) mewn perthynas â Gofal Cymdeithasol i Oedolion, ffoniwch 01978 292066.

Y tu allan i oriau swyddfa, gallwch gysylltu â’r Tîm Dyletswydd mewn Argyfwng ar 03450 533116.

Bydd yr holl wasanaethau’n ailddechrau ddydd Iau, 2 Ionawr.

Gwasanaethau Cofrestru

Bydd Neuadd y Dref ar agor i gofrestru marwolaethau’n unig.

Casgliadau Gwastraff

Bydd biniau’n cael eu casglu dros gyfnod y Nadolig, er y bydd rhywfaint o newidiadau i amserlenni.

Gwiriwch eich diwrnod casglu.

Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref

Bydd yr holl ganolfannau ailgylchu gwastraff y cartref ar agor bob dydd ac eithrio Dydd Nadolig. Caiff y safleoedd eu rheoli gan FCC Environment.

Ewch â phrawf gyda chi eich bod yn byw yn y fwrdeistref sirol (e.e. bil cyfleustodau gyda’ch cyfeiriad arno).

Mae’r safleoedd hyn ar gyfer preswylwyr Wrecsam yn unig. Os nad oes gennych brawf eich bod yn byw yma, ni chewch adael eich sbwriel.

Tŷ Pawb

Dyma oriau agor / cau Tŷ Pawb:

  • Dydd Mawrth, 24 Rhagfyr – 2pm cau
  • Dydd Mercher, 25 Rhagfyr – gau
  • Dydd Iau, 26 Rhagfyr – gau
  • Gwener, 27 Rhagfyr – 11am-4pm
  • Dydd Sadwrn, 28 Rhagfyr – 11am-4pm
  • Sul, 29 Rhagfyr – closed
  • Dydd Llun, 30 Rhagfyr – 11am-4pm
  • Dydd Mawrth, 31 Rhagfyr – 11am-2pm
  • Dydd Mercher, 1 Ionawr – gau

Llyfrgelloedd

Bydd pob llyfrgell gangen yn cau amser cinio ddydd Mawrth 24 Rhagfyr ac yn ailagor fel arfer ddydd Iau 2 Ionawr, 2025.

Bydd Llyfrgell Wrecsam yn cau amser cinio ddydd Mawrth 24 Rhagfyr ac yn ailagor ddydd Gwener 27 Rhagfyr hyd at ddydd Mawrth 31 Rhagfyr – 9.00-1.00pm (sylwch nad ydym yn agor ar ddydd Sul).

Bydd Llyfrgell Wrecsam ar gau ddydd Mercher Ionawr 1af 2025 a bydd yn ail-agor oriau arferol o ddydd Iau 2 Ionawr 2024.

Rhannu
Erthygl flaenorol A fyddech chi’n gallu darparu canolfan glyd? Grantiau ar gael yn fuan A fyddech chi’n gallu darparu canolfan glyd? Grantiau ar gael yn fuan
Erthygl nesaf Dathliadau’r Nadolig ym Marchnad Pedwar Diwrnod Wrecsam yn profi i fod yn Llwyddiant! Dathliadau’r Nadolig ym Marchnad Pedwar Diwrnod Wrecsam yn profi i fod yn Llwyddiant!

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Photo showing the eisteddfod site on a bright day with clear blue skies. The huge eisteddfod letters are in he foreground with the main pavillion in the background.
Cynllun mynediad am ddim i’r Eisteddfod i deuluoedd lleol ar incwm isel
Digwyddiadau Pobl a lle Gorffennaf 4, 2025
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Busnes ac addysg Gorffennaf 4, 2025
trees
Fandaleiddio coed ym Mhlas Madog yn ennyn dicter y gymuned
Pobl a lle Gorffennaf 4, 2025
9000
Wrecsam yn dathlu plannu dros 9000 o goed newydd
Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 4, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

9000
Pobl a lleY cyngor

Wrecsam yn dathlu plannu dros 9000 o goed newydd

Gorffennaf 4, 2025
Ty Mawr
FideoPobl a lleY cyngor

Parciau gwledig Wrecsam o’r awyr

Gorffennaf 4, 2025
Strategaeth uchelgeisiol newydd yn elwa cymunedau Wrecsam sy'n caru pêl-droed
Pobl a lleY cyngor

Strategaeth uchelgeisiol newydd yn elwa cymunedau Wrecsam sy’n caru pêl-droed

Gorffennaf 3, 2025
Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam
Y cyngor

Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam

Gorffennaf 2, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English