1 Rhagfyr yw Dydd Sadwrn Busnesau Bach – yr ymgyrch sy’n cefnogi a hyrwyddo busnesau bach a’r diwrnod gallwch ddangos eich cefnogaeth iddynt yn iawn.
Eleni mae digon yn digwydd yng nghanol y dref i sicrhau bod gwerth i’ch ymweliad wrth gefnogi ein masnachwyr annibynnol.
Bydd Santa yn ei groto yn Nhŷ Pawb a bydd Crefftau Nadolig rhwng 12.30 a 2.30. Bydd corau a Charolau yn darparu naws Nadoligaidd, yn ogystal â gwin cynnes a mins peis.
Mae crefftau creu sleim a stondinau dros dro yn llawn llawenydd y Nadolig!
Os ydych chi erioed wedi ystyrio bod yn fasnachwr am ddydd, gellir hurio bwrdd yn Tŷ Pawb am ddim ond £15. Am ragor o wybodaeth gyrrwch e-bost at typawb@wrexham.gov.uk
Bydd llawer o siopau a busnesau bach o gwmpas y dref yn cymryd rhan gyda chynigion gwych, rhoddion am ddim, cystadlaethau a llawer mwy.
Gallwch hefyd fanteisio ar barcio am ddim ar ôl 10am ym mhob maes parcio sy’n eiddo i’r cyngor yng nghanol y dref, gan gynnwys Tŷ Pawb.
Mae rhagor o barcio am ddim dros gyfnod y Nadolig isod:
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.yourvoicewrexham.net/KMS/elab.aspx?noip=1&CampaignId=766&SessionId=7W3XW8KTF6&language=cy”]DWI ISIO MYNEGI FY MARN![/button]
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” link=”https://newyddion.wrecsam.gov.uk”]DOES DIM OTS GEN [/button]