Mae cynllun cyllid grant poblogaidd yn galw ar bobl i wneud cais am gyllid i helpu pobl sy’n ddiamddiffyn neu sydd ar eu pen eu hunain yn eu cymunedau lleol.
Crëwyd y Grant Cynhwysiant Cymunedol yn 2012 i wella bywydau pobl hŷn sy’n byw yn Wrecsam. Oherwydd y sefyllfa bresennol, mae llawer iawn o bobl hŷn a phobl ddiamddiffyn mewn cymunedau ar draws Wrecsam yn teimlo’n fwy unig ac ynysig. Nod y cyllid grant hwn yw cynorthwyo pobl â syniadau i helpu’r bobl hynny.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Mae’r panel fel arfer yn cwrdd pedair gwaith y flwyddyn i drafod ceisiadau. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i ddarparu’r grantiau, mae’r tîm yn cynnal cyfarfodydd rhithwir i’w trafod.
Hyd yma, mae’r grant wedi cefnogi cais i helpu’r gymuned Bortiwgeaidd yn Wrecsam i aros mewn cysylltiad tra maent yn ynysu ac i helpu ag archebion bwyd ar-lein i bobl sydd efallai heb fynediad at liniaduron / cyfrifiaduron neu’r rhyngrwyd.
Mae cyllid grant hefyd wedi cael ei ddyfarnu i glwb cinio Llannerch Banna er mwyn iddynt allu ehangu’r ddarpariaeth o giniawau. Mae’r galw am giniawau gan Ganolfan Enfys Llannerch Banna wedi cynyddu ac roedd arnynt angen cymorth i ddarparu mwy o grochanau bwyd poeth yn ogystal â chefnogi’r gwirfoddolwyr sy’n danfon y bwyd i’r ardaloedd cyfagos. Mae’r grant yn golygu eu bod nawr yn gallu ehangu’r ardaloedd y maent yn eu gwasanaethu.
Meddai’r Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion, “Mae’r grant cynhwysiant cymunedol wedi profi i fod yn grant poblogaidd iawn ar gyfer y gymuned. Yn ystod yr hinsawdd bresennol, mae’r grant yn bwysicach fyth a gall helpu’r rheiny sydd mewn perygl o fod ar eu pen eu hunain yn ein cymunedau. Anogir unrhyw un sydd â syniad neu phrosiect a sydd angen cyllid ychwanegol i gysylltu â’r tîm a gwneud cais am y grant.”
A oes gennych chi syniad neu a oes gennych chi angen cymorth ariannol ychwanegol i gyflawni prosiect a fydd yn helpu pobl hŷn a phobl ddiamddiffyn sydd ar eu pen eu hunain yn eich cymuned?
Mae cyllid, sydd yn amrywio o £200 – £2,500 ar gael i gefnogi’r gwaith o sefydlu a/neu gynnal gweithgareddau yn y gymuned sydd yn lleihau arwahanrwydd cymdeithasol ac unigrwydd, trwy gefnogi pobl i gynnal neu adennill cysylltiadau cymdeithasol a galluogi pobl i gymryd rhan yn eu cymuned leol.
tNid yn unig y mae ailgysylltu unigolion ynysig ac unig yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau oedolion hŷn a diamddiffyn o ran eu hiechyd a lles emosiynol, ond mae hefyd yn cefnogi’r gymuned trwy gael gafael ar eu cyfalaf economaidd a chymdeithasol.
Cysylltu â’r tîm
Cysylltwch â’r tîm comisiynu ar: 01978 292066 am sgwrs anffurfiol neu i gael mwy o wybodaeth.
Mae ffurflenni cais a nodiadau cyfarwyddyd ar gael trwy anfon e-bost i: commissioning@wrexham.gov.uk
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19