Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cwmnïau Wrecsam yn camu i’r adwy i ateb yr alwad am gymorth
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Cwmnïau Wrecsam yn camu i’r adwy i ateb yr alwad am gymorth
Busnes ac addysgPobl a lle

Cwmnïau Wrecsam yn camu i’r adwy i ateb yr alwad am gymorth

Diweddarwyd diwethaf: Mai 15, 2020 3:24 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Wrexham Companies
RHANNU

Er bod y mwyafrif ohonom yn dilyn y canllawiau i aros adref ac arbed bywydau, mae rhai o gwmnïau Wrecsam wedi bod yn camu i’r adwy i ymateb i alwad y Llywodraeth i weithgynhyrchwyr gynorthwyo i gynhyrchu Cyfarpar Diogelu Personol.

Un o’r rhain yw’r cwmni lleol Riva UK Ltd a ddechreuodd ar y gwaith o ddylunio fisor wyneb amddiffynnol ddechrau mis Ebrill.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU

Dywedodd Carl Bird, y Rheolwr Gyfarwyddwr: “Er waethaf y prinder cenedlaethol o ddeunyddiau a, diolch i gefnogaeth rhai cyflenwyr lleol allweddol wrth ddarparu cydrannau ar gyfer ein llinell gynhyrchu, mae gennym bellach y gallu i gynhyrchu 100,000 fisor yr wythnos. Mae’r cynnyrch wedi’i ardystio gan y CE ac yn cael ei ddefnyddio i helpu staff a gweithwyr y GIG ar draws y DU.”

Advance Spares Ltd (ASL), sydd wedi’u lleoli ar Ystâd Ddiwydiannol Vauxhall yn Rhiwabon yw un o’r cyflenwyr sy’n cefnogi cynhyrchant y fisors hyn, ac mae ASL yn cyflenwi’r fisors, yn ogystal ag ystod o offer Cyfarpar Diogelu Personol gan gynnwys masgiau, menig, thermomedrau a hylif diheintio dwylo, i’w cwsmeriaid yn y diwydiant modurol a diwydiannau eraill o amgylch Wrecsam.

Dywedodd Adrian Tant, Cyfarwyddwr Gwerthiant yn ASL: “Rydym wir eisiau cefnogi diwydiant lleol gan ein bod yn gwybod fod y cynhyrchion hyn yn anodd iawn i’w cael a bod eu gwir angen i roi ein heconomi leol ar ei thraed. Rydym yn dal i gyflenwi ein cynhyrchion tynhau creiddiol yn fyd-eang yn ogystal â chefnogi nifer o gynhyrchwyr sydd ar hyn o bryd yn creu awyryddion a chyfarpar meddygol eraill. Bu’n rhaid i ni addasu ein arferion gwaith i sicrhau y gallwn aros ar agor. Rydym wedi gorfod dysgu’n gyflym iawn, ac rydw i’n falch iawn o’r tîm ASL.”

Mae cwmni lleol arall, Silvergate Plastics hefyd wedi ymuno yn y frwydr yn erbyn Covid-19 a bu ymchwydd sylweddol yn yr archebion sy’n cael eu derbyn gan gynhyrchwyr poteli diheintio dwylo a diheintyddion eraill.

“Rhoi clod a diolch i gwmnïau Wrecsam”

Lead Member for Economic Development and Regeneration, Cllr Terry Evans, said: Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd ac Adfywio: “Rhaid rhoi clod a diolch i’r holl gwmnïau o Wrecsam sy’n cyfrannu at ddarparu’r nwyddau hanfodol hyn gan gynnwys Cyfarpar Diogelu Personol yn ystod y pandemig hwn am eu cyfraniad aruthrol i gadw pobl yn ddiogel. Maent wedi camu i’r adwy yn ystod cyfnod o argyfwng cenedlaethol ac wedi newid yr hyn maent yn ei gynhyrchu a’r ffordd maent yn trefnu eu gweithlu ac mae hyn wedi golygu fod yr holl rai sy’n cyfrannu wedi gorfod dysgu’n gyflym. Diolch am eich cyfraniad ac i bob busnes ar draws Wrecsam sydd wedi ateb yr alwad am gymorth.”

Dywedodd yr aelod ward lleol a Dirprwy Arweinydd y Cyngor, y Cyng A Bithell: “Hoffwn ychwanegu fy niolch i’r holl gwmnïau sy’n gysylltiedig. Mae’n galonogol iawn i weld cwmni lleol mor barod i gamu i’r adwy i ateb yr alwad am gymorth yn ystod y cyfnod anodd a heriol hwn. Da iawn bawb a chofiwch aros yn ddiogel.”

Mae canllawiau ‘COVID-19 diogel’ newydd ar gael i gyflogwyr yn y DU i’w helpu i ail-gydio yn eu busnes ac i sicrhau fod gweithleoedd yn gweithredu mor ddiogel â phosibl. Mae cyfres o ddogfennau ar gael ar-lein i helpu gwahanol sectorau i baratoi am ddychwelyd i’r gwaith.

https://www.gov.uk/guidance/working-safely-during-coronavirus-covid-19

Mae Llywodraeth Cymru a Diwydiant Cymru yn gweithio ar ganllawiau ar gyfer cwmnïau sy’n paratoi i ddychwelyd i’r gwaith. Bydd yn cael ei gyhoeddi’n fuan, ond mae’n ddolen ganlynol yn enghraifft o arferion da yn cael eu gweithredu gan gwmni yng nghanolbarth Cymru:

https://www.bbc.co.uk/news/av/business-52624288/coronavirus-how-to-run-a-factory-during-a-pandemic.

Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://icc.gig.cymru/pynciau/gwybodaeth-ddiweddaraf-am-coronavirus-newydd-covid-19/”] Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol grants isolated idea A oes gennych chi syniad i helpu’r rheiny sydd ar eu pen eu hunain yn eich cymuned? Mae grantiau ar gael!
Erthygl nesaf Covid 19 Covid-19 (Novel Coronavirus) – nodyn briffio’r cyhoedd 15.5.20

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Dysgu yn Wrecsam
Defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i ddarllen a gwrando ar newyddion a gwybodaeth y cyngor mewn unrhyw iaith
Busnes ac addysg
Medi 15, 2026
Mae hi'n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a'r brifysgol)
Mae hi’n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a’r brifysgol)
Datgarboneiddio Wrecsam Fideo
Medi 15, 2026
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 15, 2026
Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
Mayor with Nightingale House Hospice team
ArallFideoPobl a lle

Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam

Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd

Medi 9, 2026
Mayor with the Registrar team
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu

Medi 4, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English