Ydych chi’n byw yn Wrecsam neu’n gweithio gyda phobl sy’n byw yn Wrecsam? A fyddech yn hoffi deall sut i allu cyfathrebu’n well gyda phobl sy’n byw gyda dementia?
Mae’r cwrs dehongli dementia wedi’i lunio i helpu pobl i ddeall sut i gyfathrebu â phobl â dementia a chydnabod bod ymddygiadau yn aml yn ffordd o ddweud rhywbeth wrthym.
Drwy ddeall yr ymddygiad hwn, gallwn leihau’r rhwystredigaeth y mae colli’r gallu i siarad yn gallu ei achosi.
Bydd y cwrs yn edrych ar effaith y mae problemau cyfathrebu yn ei gael ar unigolyn ac ar grŵp – nid yn unig o’ch safbwynt chi, ond o safbwynt yr unigolyn hefyd. Byddwch yn dysgu technegau newydd er mwyn helpu i ddeall y newidiadau bychan y mae’n rhaid i chi eu gwneud i ddeall unigolyn, a byddwch yn magu sgiliau i ddehongli ymddygiadau a’ch galluogi i ddeall beth mae rhywun yn ei “ddweud”.
Mae 2 sesiwn ar gael fesul diwrnod ym mhob lleoliad: 9.30am – 12.30pm neu 1.30pm – 4.30pm
Mae’r hyfforddiant hwn ar gael yn benodol i bobl sy’n byw yn Wrecsam neu’n gweithio gydag unigolion sy’n byw yn Wrecsam.
Dyddiadau’r cwrs
Mae’n rhaid archebu lle
19 a 22 Medi 2022:
Hwb Menter, Sgwâr y Frenhines, Wrecsam, LL11 1AT
21 Medi 2022: Yn llawn
Adeiladau’r Goron, 31 Stryt Gaer, Wrecsam, LL13 8BG
23 Medi 2022:
Gofal Cartref a Chefnogaeth, Wrecsam, LL11 4YL
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â
commissioning@wrexham.gov.uk
I archebu eich lle
Ffôn:01978 292000
Talu i wagio eich bin gwyrdd 2022/23.
TALU NAWR