Pe bai etholiad yn cael ei gynnal yfory, a fyddech chi’n cael pleidleisio?
Dylech fod wedi cael eich ffurflen ymholiad aelwyd flynyddol erbyn hyn ac os nad ydych eisoes wedi’i gwirio, gwnewch hynny nawr. Nid ydym yn gwybod pryd fydd yr etholiad nesaf yn cael ei gynnal ond hoffem weld cymaint o breswylwyr cymwys â phosib wedi cofrestru i bleidleisio.
OS YDYM NI’N CAEL SETLIAD GWAEL, BYDD YN RHAID I NI YSTYRIED TORIADAU PELLACH. DWEUD EICH DWEUD…
Dylai eich manylion fod ar y ffurflen yn barod ac os nad ydynt wedi newid, ewch i www.householdresponse.com/wrexham, ffoniwch 0800 197 9871 neu anfonwch y neges destun NOCHANGE gan gynnwys y ddwy ran o’ch cod diogelwch at 80212 – codir tâl safonol.
Os oes angen diweddaru eich manylion neu os oes angen ychwanegu neu gael gwared ar unrhyw beth, ewch i www.householdresponse.com/wrexham i wneud y newidiadau angenrheidiol. Unwaith i chi wneud hyn, dylech gofrestru unigolion newydd drwy fynd i https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio Bydd arnoch chi angen eich Rhif Yswiriant Gwladol. Os nad ydych yn gallu cofrestru ar-lein, byddwch yn derbyn ffurflen Gwahoddiad i Gofrestru i’w chwblhau. Ar ôl i chi gwblhau’r ffurflen byddwch wedi cofrestru i bleidleisio.
Yn ôl gwaith ymchwil gan Y Comisiwn Etholiadol annibynnol, mae unigolion sydd yn symud tŷ neu wedi symud yn ddiweddar, yn llawer llai tebygol o fod wedi cofrestru na’r unigolion hynny sydd wedi byw yn yr un cyfeiriad am gyfnod hir. Mae 94% o unigolion, sydd wedi byw yn eu tai am dros 16 o flynyddoedd, wedi cofrestru o gymharu â 30% o unigolion sydd wedi byw yn eu cartrefi ers llai na blwyddyn.
Mae rhentwyr preifat hefyd yn llawer llai tebygol o fod wedi cofrestru o gymharu â’r unigolion hynny sy’n berchen eu tai. Mae 95% o berchnogion tai yng Nghymru ar y gofrestr etholwyr o gymharu â 51% o rentwyr preifat.
Mae hefyd yn ofyniad cyfreithiol i nodi’r wybodaeth y gofynnir amdani yn y Canfasio Blynyddol – hyd yn oed os nad ydych yn dymuno gwneud unrhyw newidiadau. Mae posibilrwydd y gallech dderbyn dirwy o hyd at £1,000 am beidio â gwneud unrhyw beth, felly gweithredwch er mwyn sicrhau nad ydych yn colli eich cyfle i bleidleisio.
Os ydym ni’n cael setliad gwael, bydd yn rhaid i ni ystyried toriadau pellach. Dweud eich dweud.
DWEUD EICH DWEUD