Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cae 3G i Glywedog
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Cae 3G i Glywedog
Pobl a lleY cyngor

Cae 3G i Glywedog

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 21, 2019 2:04 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
3G football pitches
RHANNU

Efallai eich bod yn cofio ein newyddion da fis diwethaf am y llifoleuadau newydd a osodwyd ar y caeau chwarae yn Ysgol Clywedog, ar Ffordd Rhuthun.

Cynnwys
  • Gwaith ar y cae newydd
  • “Gwych yw gweld mwy o welliannau”

Wel, mae gennym ragor o newyddion da.

Bydd gwaith yn dechrau’n fuan ar osod cae 3G newydd ar y safle hamdden/ysgol aml-ddefnydd – sy’n golygu y bydd unrhyw glwb sy’n awyddus i ddefnyddio’r cae yn cael mwy o fudd ohono.

OS YDYM NI’N CAEL SETLIAD GWAEL, BYDD YN RHAID I NI YSTYRIED TORIADAU PELLACH. DWEUD EICH DWEUD…

Gwaith ar y cae newydd

Bydd gwaith i osod y cae 3G newydd yn dechrau ar ddiwedd y mis, a dylai’r gwaith ddod i ben ar ddechrau mis Rhagfyr.

Rydym eisoes wedi cysylltu â chlybiau a defnyddwyr eraill i roi gwybod iddynt am y gwelliannau sydd ar y gweill a byddant yn gallu cymryd mantais o’r cyfleusterau newydd yn y gaeaf.

A diolch i’r llifoleuadau newydd, bydd chwarae yn ystod y gaeaf yn fwy o hwyl o lawer!

“Gwych yw gweld mwy o welliannau”

Dywedodd y Cyng. Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrthdlodi, sydd â chyfrifoldeb dros Hamdden: “Gwych yw gweld mwy o welliannau i’r cae bob tywydd yn Ysgol Clywedog – yn enwedig o ystyried ein bod ond newydd osod y llifoleuadau newydd.

“Hoffwn ddiolch i staff Cyngor Wrecsam a Freedom Leisure am eu gwaith i sicrhau’r gwelliannau hyn i’r cae, ac rwyf yn falch iawn o weld y bydd gan glybiau lleol ddewis eang o gyfleusterau gwell i chwarae a hyfforddi ynddynt ar draws y fwrdeistref sirol.”

Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, Cadeirydd y Llywodraethwyr yn Ysgol Clywedog: “Rydym yn falch iawn o’r cyhoeddiad ynglŷn â’r cae 3G newydd, gan y daw ochr yn ochr â nifer o welliannau eraill i’r ysgol – yn cynnwys ailddatblygu’r ystafelloedd addysg a TG a chreu ardal fynediad newydd a gwell.

“Fel y gwelliannau diweddar eraill i’r cyfleusterau hamdden, ni fuasai amseriad hyn wedi gallu bod yn well.”

Os oes gannoch ddiddordeb mewn archebu’r cae, cysylltwch â Chanolfan Hamdden a Gweithgareddau Clywedog ar  01978 262787, neu e-bostiwch clywedogLC@freedom-leisure.co.uk; neu ewch i wefan Freedom Leisure.

Os ydym ni’n cael setliad gwael, bydd yn rhaid i ni ystyried toriadau pellach. Dweud eich dweud.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.yourvoicewrexham.net/arolwg/977″] DWEUD EICH DWEUD [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Nofio am Ddim dros Hanner Tymor Nofio am Ddim dros Hanner Tymor
Erthygl nesaf General Election 2020 A ydych chi wedi cofrestru i bleidleisio?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English