Dyma'r ffrydd y byddwn yn...

Yn ôl ym mis Awst, anfonwyd ffurflenni A3, i gadarnhau fod gennym y manylion cywir ar gyfer pawb sy’n 14 oed a hŷn sy’n byw yn eich tŷ. A wnaethoch gael un?

Os wnaethoch, a ydych wedi ymateb? Mae hyn yn rhan o’r ‘canfasio blynyddol’, pan fydd Cyngor Wrecsam yn sicrhau fod y gofrestr etholiadol yn gywir.

Ydych chi wedi derbyn llythyr/ffurflen ynglŷn â’r gofrestr etholiadol? Dilynwch y cyfarwyddiadau fel ein bod ni’n gwybod eich bod chi wedi cofrestru ac yn barod i bleidleisio.

Trwy sicrhau fod yr holl fanylion yn gywir, pan fydd etholiad, bydd pawb sydd â hawl i bleidleisio yn gallu gwneud hynny.

Ymatebwch trwy ddilyn y cyfarwyddiadau fel ein bod ni’n gwybod eich bod wedi cofrestru ac yn barod i bleidleisio.

Trwy ymateb i’r ffurflen, byddwch hefyd yn ein helpu i arbed arian trwy ostwng y gost o bobl yn dod i gadarnhau eich manylion wyneb yn wyneb.  Dros y misoedd nesaf, bydd canfaswyr yn ymweld ag eiddo nad ydynt wedi ymateb er mwyn sicrhau bod ein manylion yn gywir.

Ydych chi wedi derbyn llythyr/ffurflen ynglŷn â’r gofrestr etholiadol?

PARATOWCH I BLEIDLEISIO