Bydd gwaith i newid arwydd sydd wedi torri ar gylchfan Croesfoel yn cael ei wneud gyda’r nos ddydd Iau 24 Awst.
Mae’r arwydd yn arwydd ceibr a ddifrodwyd gan yrrwr meddw yn anffodus. Bydd y gwaith yn peri anghyfleustra i ddefnyddwyr y gylchfan am oddeutu dwy awr.
Bydd conau yn cael eu gosod i atal gyrwyr rhag defnyddio lôn fewnol y gylchfan a bydd y ffyrdd ymuno ac ymadael yn cael eu lleihau i un lôn tra bo’r gwaith yn mynd rhagddo.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:
“Yn anffodus bydd rhaid newid yr arwydd hwn gan ei fod wedi’i ddifrodi’n fawr. Gwn y bydd staff yn ceisio cadw’r amhariad i’r lefelau isaf posibl a bydd y ffyrdd yn agor cyn gynted ag sy’n ymarferol.”
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI