Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen A528: Gellid gostwng y terfyn cyflymder i helpu atal mwy o ddamweiniau ar droadau sydyn
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > A528: Gellid gostwng y terfyn cyflymder i helpu atal mwy o ddamweiniau ar droadau sydyn
Arall

A528: Gellid gostwng y terfyn cyflymder i helpu atal mwy o ddamweiniau ar droadau sydyn

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 3, 2025 11:21 am
Rhannu
Darllen 2 funud
Road
RHANNU

Gallai’r terfyn cyflymder ar ddarn o ffordd y tu allan i Owrtyn, ger Wrecsam, gael ei ostwng yn dilyn pryderon am ddiogelwch.

Mae troad sydyn ar yr A528 o Owrtyn i Ellesmere yn lleoliad nifer o ddamweiniau traffig, ac mae’r cynghorydd lleol John McCusker wedi bod yn ymgyrchu dros ostwng y terfyn o 50mya i 30mya mewn ymgais i wneud y ffordd yn fwy diogel.

Yn ddiweddar, cyfarfu’r Cynghorydd McCusker â’r Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol sy’n gyfrifol am drafnidiaeth strategol, ynghyd â swyddogion priffyrdd o Gyngor Wrecsam i edrych ar y rhan ffordd honno.

Yn dilyn y cyfarfod, cytunwyd y byddai ymgynghoriad statudol yn cael ei gynnal gyda golwg ar ostwng y terfyn cyflymder.

Byddai mwy o arwyddion hefyd yn cael eu hychwanegu ar hyd y llwybr.

Dwedodd y Cynghorydd McCusker: “Dydi damweiniau ar hyd y rhan yma o’r A528 ddim yn anghyffredin, ac mae’r troad yn y ffordd yn sydyn iawn.

“Byddai gostwng y terfyn gobeithio yn lleihau’r tebygolrwydd o ddamweiniau yn y dyfodol, ac rwy’n gwybod y byddai llawer o drigolion lleol yn hoffi gweld terfyn cyflymder 30mya yn cael ei gyflwyno.”

Dwedodd y Cynghorydd Bithell: “Cynhaliwyd y cyfarfod yn dilyn sawl damwain ar hyd y rhan honno o’r ffordd ac rydym wedi cytuno mewn egwyddor i leihau’r terfyn cyflymder o 50mya i 30mya yn amodol ar ymgynghoriad statudol.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Green garden waste bin Nid yw’n rhy hwyr i gofrestru ar gyfer casgliadau gwastraff gardd
Erthygl nesaf Humble & Whole Bara i bara am byth…

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
Pobl a lleArall

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref

Hydref 21, 2026
Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English