Mae sicrhau mynediad ar gyfer holl ddefnyddwyr gorsaf drenau Rhiwabon yn parhau i fod yn flaenoriaeth ac yn dilyn cyfarfod gyda Network Rail yn ddiweddar rydym yn falch bod cynlluniau i geisio cyllid drwy fenter Access for All Llywodraeth y DU yn mynd yn dda.
Mae opsiwn unigol ar gyfer yr orsaf wedi’i nodi sef gosod lifftiau newydd y tu ôl i’r bont droed bresennol ar gyfer y rheilffordd a fydd yn sicrhau mynediad heb risiau i ac o’r ddau blatfform.
Bydd dyluniad amlinellol yn cael ei gwblhau erbyn diwedd Mawrth 2024 ac mae cais cyn cymeradwyo’n cael ei brosesu gan dîm cynllunio Network Rail.
“Sicrhau y gall teithwyr gael mynediad at bob ardal yng ngorsaf Rhiwabon”
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd sydd â chyfrifoldeb am Gludiant Strategol, “Mae gorsaf Rhiwabon yn hynod boblogaidd ymysg teithwyr lleol ac yn gyfnewidfa allweddol ar gyfer ymwelwyr i Safle Treftadaeth y Byd ym Mhontcysyllte. Rwy’n ddiolchgar i Network Rail am eu cefnogaeth barhaus i sicrhau y gall yr holl deithwyr gael mynediad at bob rhan o orsaf Rhiwabon er mwyn sicrhau bod eu taith mor esmwyth â phosibl.”
Dywedodd Simon Baynes, AS, “Ar hyn o bryd nid yw teithwyr gyda bagiau trwm, problemau symudedd neu bramiau a phlant bach yn gallu cael mynediad at blatfform Caer gan olygu bod eu siwrneiau yn hirach ac yn anghyfleus. Rwy’n croesawu’r cynnydd a wnaed gan Network Rail ac yn edrych ymlaen at weithio â nhw dros y misoedd nesaf wrth i’r cynlluniau ddatblygu.
Mae Access for All yn fenter gan Lywodraeth y DU a lansiwyd yn 2006 i greu llwybr hygyrch, heb rwystrau o fynedfa’r orsaf i’r platfform. Mae hyn yn cynnwys darparu lifftiau neu rampiau, ynghyd â gwaith cysylltiol ac adnewyddu’r llwybrau.
Efallai yr hoffech chi hefyd ddarllen Rydym yn chwilio am gefnogwyr