Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mynediad ar gyfer Defnyddwyr Gorsaf Drenau Rhiwabon yn parhau’n flaenoriaeth
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Mynediad ar gyfer Defnyddwyr Gorsaf Drenau Rhiwabon yn parhau’n flaenoriaeth
Y cyngorPobl a lle

Mynediad ar gyfer Defnyddwyr Gorsaf Drenau Rhiwabon yn parhau’n flaenoriaeth

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 6, 2024 11:09 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Ruabon Station
RHANNU

Mae sicrhau mynediad ar gyfer holl ddefnyddwyr gorsaf drenau Rhiwabon yn parhau i fod yn flaenoriaeth ac yn dilyn cyfarfod gyda Network Rail yn ddiweddar rydym yn falch bod cynlluniau i geisio cyllid drwy fenter Access for All Llywodraeth y DU yn mynd yn dda.

Mae opsiwn unigol ar gyfer yr orsaf wedi’i nodi sef gosod lifftiau newydd y tu ôl i’r bont droed bresennol ar gyfer y rheilffordd a fydd yn sicrhau mynediad heb risiau i ac o’r ddau blatfform.

Bydd dyluniad amlinellol yn cael ei gwblhau erbyn diwedd Mawrth 2024 ac mae cais cyn cymeradwyo’n cael ei brosesu gan dîm cynllunio Network Rail.

“Sicrhau y gall teithwyr gael mynediad at bob ardal yng ngorsaf Rhiwabon”

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd sydd â chyfrifoldeb am Gludiant Strategol, “Mae gorsaf Rhiwabon yn hynod boblogaidd ymysg teithwyr lleol ac yn gyfnewidfa allweddol ar gyfer ymwelwyr i Safle Treftadaeth y Byd ym Mhontcysyllte.   Rwy’n ddiolchgar i Network Rail am eu cefnogaeth barhaus i sicrhau y gall yr holl deithwyr gael mynediad at bob rhan o orsaf Rhiwabon er mwyn sicrhau bod eu taith mor esmwyth â phosibl.”

Dywedodd Simon Baynes, AS, “Ar hyn o bryd nid yw teithwyr gyda bagiau trwm, problemau symudedd neu bramiau a phlant bach yn gallu cael mynediad at blatfform Caer gan olygu bod eu siwrneiau yn hirach ac yn anghyfleus.  Rwy’n croesawu’r cynnydd a wnaed gan Network Rail ac yn edrych ymlaen at weithio â nhw dros y misoedd nesaf wrth i’r cynlluniau ddatblygu.

Mae Access for All yn fenter gan Lywodraeth y DU a lansiwyd yn 2006 i greu llwybr hygyrch, heb rwystrau o fynedfa’r orsaf i’r platfform. Mae hyn yn cynnwys darparu lifftiau neu rampiau, ynghyd â gwaith cysylltiol ac adnewyddu’r llwybrau.

Ruabon

Mae Castanwydden Bêr Wrecsam wedi cyrraedd cystadleuaeth Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn. Ewch i fwrw eich pleidlais yn awr i sicrhau ei bod yn cael cydnabyddiaeth eang y mae’n ei haeddu

Efallai yr hoffech chi hefyd ddarllen Rydym yn chwilio am gefnogwyr

Rhannu
Erthygl flaenorol Family Teulu Rydym yn chwilio am gefnogwyr
Erthygl nesaf Cycling Cyrsiau beicio rhad ac am ddim ar y gweill – archebwch eich lle!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026
Minera Roof Trusses
Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi
Busnes ac addysg
Awst 28, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
DigwyddiadauPobl a lle

Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr

Awst 26, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English