Mae tîm Safonau Masnach Cyngor Wrecsam wedi cael gwybod am nifer o alwadau ffôn digymell amheus sydd un ai’n codi pryderon o ran diogelwch, neu’n cynnig i wella perfformiad, insiwleiddiad atig preswylydd.
Dywedwyd bod y galwyr yn honni y gallai fod materion diogelwch gyda’r insiwleiddiad atig a osodwyd yn ddiweddar.
Mae’r galwyr yn ceisio cael manylion personol gan breswylwyr drwy ofyn cyfres o gwestiynau ac yna’n ceisio trefnu i gynrychiolydd ymweld â chartref y preswylydd i drafod opsiynau pellach.
Byddem yn annog i unrhyw un sy’n derbyn unrhyw fath o alwad ffôn digymell i fod yn ofalus.
Peidiwch byth â chael eich dychryn i wneud penderfyniad sydyn a chymerwch eiliad bob amser i ofyn i chi’ch hun a yw’r galwr yn onest.
Peidiwch â rhoi unrhyw fanylion personol i alwr sydd wedi cysylltu â chi yn gwbl annisgwyl.
Byddai Safonau Masnach yn eich cynghori chi i beidio ag ymgysylltu ag unrhyw alwyr digroeso un ai dros y ffôn neu ar garreg y drws, waeth beth sydd ganddynt i’w ddweud wrthoch chi. Rhowch y ffôn i lawr neu caewch y drws.
Os ydych chi’n cael galwad ffôn yr ydych chi’n amau ei fod yn sgam, rhowch wybod i Wasanaeth Defnyddiwr Cyngor ar Bopeth drwy ffonio 0808 223 1133 (Saesneg) neu 0808 223 1144 (Cymraeg).
Helpwch i ddiogelu eraill rhag dioddef o’r math hwn o sgam drwy adael i’ch teulu, ffrindiau a’ch cymdogion wybod am y rhybudd hwn.
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD