Mae ein tîm Wrecsam Egnïol eisiau darparu grant o hyd at £1,000 i glybiau a sefydliadau cymunedol sydd eisiau datblygu cysylltiadau â’u hysgolion a chymunedau lleol.
Gellid defnyddio’r grant ar gyfer addysg hyfforddwyr, prynu offer newydd, llogi cyfleusterau ac ati, i ddarparu sesiynau mewn ysgolion a chefnogi rhaglenni lles ein hysgolion.
Am Wrecsam Egnïol
Mae Wrecsam Egnïol yn canolbwyntio ar greu a chefnogi cyfleoedd o fewn ysgolion a chymunedau i fwy o bobl fod yn fwy egnïol drwy ddull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn cefnogi datblygiad clybiau lleol a gwirfoddolwyr i ddarparu gweithgarwch corfforol o ansawdd uchel.
Dywedodd y Cyng. Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg, “Rydym yn gwybod bod llawer iawn o grwpiau a chlybiau chwaraeon a fyddai wrth eu boddau’n gweithio gyda’n tîm a chynnig eu harbenigedd a chymorth i’n hysgolion fel rhan o’u rhaglenni lles.
“Cysylltwch i gael gwybod sut i wneud cais am y grant a sut y gallai fod o fudd i grŵp mwy o bobl.”
I gael mwy o wybodaeth a chael ffurflen gais, e-bostiwch activewrexham@wrexham.gov.uk
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Perfformiad cerddorol byw, Cofio Gresffordd, yn Tŷ Pawb
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch