Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae’r canfasio wedi dechrau
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Mae’r canfasio wedi dechrau
Pobl a lle

Mae’r canfasio wedi dechrau

Diweddarwyd diwethaf: September 16, 2024 9:37 am
Rhannu
Darllen 2 funud
canfasio
RHANNU

Peidiwch â cholli eich pleidlais – nawr yw’r amser i wirio eich manylion cofrestru etholiadol neu golli eich siawns i bleidleisio ar benderfyniadau sy’n effeithio arnoch chi. 

Mae’r canfasio blynyddol yn caniatáu i Gyngor Wrecsam ddiweddaru’r gofrestr etholiadol, i ganfod pwy sydd mewn perygl o golli eu llais yn yr etholiadau, ac i’w hannog i gofrestru cyn y bydd yn rhy hwyr. 

Dywedodd Ian Bancroft, Swyddog Canlyniadau Cyngor Wrecsam: “Cadwch olwg am ddyddiadau pwysig gan Gyngor Wrecsam yma ac ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol.   Y canfasiad blynyddol yw ein ffordd ni o wneud yn siŵr bod y wybodaeth ar y gofrestr etholiadol ar gyfer pob cyfeiriad yn gywir. I wneud yn siŵr nad ydych yn colli eich llais ar unrhyw etholiadau i ddod yng Nghymru, dilynwch y cyfarwyddiadau a anfonwyd atoch chi.

“Os nad ydych wedi cofrestru ar hyn o bryd, ni fydd eich enw yn ymddangos yn y diweddariadau a anfonir gennym. Os hoffech chi gofrestru, y ffordd hawsaf yw mynd ar-lein i www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.”

Anogir rhai sydd wedi symud tŷ yn ddiweddar i wirio eu manylion, gan eu bod yn llai tebyg o gofrestru na’r sawl sydd wedi byw yn y cyfeiriad am amser maith.  Yng Nghymru, bydd 95% o’r sawl sydd wedi byw yn eu cartref am 16 mlynedd wedi cofrestru, o’i gymharu â 53% o bobl sydd wedi byw yn y cyfeiriad am lai na dwy flynedd.

Mae gwybodaeth ar gofrestru i bleidleisio ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich statws cofrestru, gallwch anfon e-bost at y tîm gwasanaethau etholiadol yn electoral@wrexham.gov.uk.

Pryd mae fy miniau’n cael eu casglu? Gwiriwch ddiwrnod casglu eich bin a chofrestrwch i gael nodiadau atgoffa.

Rhannu
Erthygl flaenorol Community Grant Grant Cymunedol Wrecsam Egnïol – hyd at £1,000 ar gael!
Erthygl nesaf Cynnyrch mislif (pad mislif wedi’i agor, wedi’i amgylchynu gan badiau mislif heb eu hagor) Ble i ddod o hyd i gynnyrch mislif am ddim yn Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Air Covers
Air Covers o Wrecsam yn cryfhau twf byd-eang gyda chymorth y Parth Buddsoddi
Busnes ac addysg
November 11, 2026
Parcio am ddim a hwyl yr ŵyl yn Wrecsam dros y Nadolig!
Parcio am ddim a hwyl yr ŵyl yn Wrecsam dros y Nadolig!
Y cyngor Digwyddiadau
November 10, 2026
Chirk Aqueduct
Dathlu pen-blwydd Traphont Ddŵr y Waun yn 225 oed mewn modd ysblennydd yng Nghastell y Waun
Pobl a lle Digwyddiadau
November 10, 2026
Wedi gweld rhywbeth sy’n ymddangos o’i le? Gallai eich llais wneud gwahaniaeth
Wedi gweld rhywbeth sy’n ymddangos o’i le? Gallai eich llais wneud gwahaniaeth
Y cyngor
November 10, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Remembrance Sunday - image shows the cenotaph at Bodhyfryd in Wrexham
Pobl a lle

Wrecsam yn Cofio – Diwrnod y Cadoediad a Sul y Cofio 2026

November 5, 2026
Dewch draw i Farchnadoedd Wrecsam
Pobl a lleDigwyddiadau

Dewch draw i Farchnadoedd Wrecsam

November 6, 2026
Wrecswyl Logo
Pobl a lleDigwyddiadau

Gwyl ddiwylliannol Gymreig newydd, WRECSWYL, yn dod i Wrecsam ddydd Sadwrn yma!

November 6, 2026
Library
Y cyngorPobl a lle

Llyfrgelloedd Cymru yn barod i helpu benthycwyr i fwynhau dyddiau mwy disglair y gaeaf hwn

November 5, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English