O heddiw ymlaen, bydd holl ddofednod ac adar caeth Cymru yn cael eu cadw dan do i’w hamddiffyn rhag Ffliw Adar.
Mae hynny’n golygu y bydd ein holl ieir a hwyaid ym Mharc Gwledig Tŷ Mawr yn cael eu symud dan do oddi wrth adar gwyllt ac ymwelwyr.
Ydych chi’n ddioddefwr siarc benthyg arian? Ffoniwch 0300 123 311.
Bydd mesurau llym ar waith i atal y feirws rhag mynd i mewn i’w llety, er mwyn sicrhau cyn lleied o risg â phosibl gan adar gwyllt neu bobl.
Gall ymwelwyr â’r parc fod yn saff y bydd yr adar i gyd yn cael gofal da ac y byddant yn ôl allan yn mwynhau eu hamgylchedd prydferth cyn gynted ag y bydd y bygythiad ffliw adar wedi pasio.
Mae anifeiliaid eraill yn y parc yn parhau i fod heb eu heffeithio ac mae llawer o anifeiliaid fel lamas, defaid, cwningod a moch cwta, felly gall ymwelwyr wneud y gorau o’u hymweliad o hyd.
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI