NODWCH – Mae’r ymgynghoriad hon wedi ei gau (01.12.17)
Oes gennych chi blentyn yn un o ysgolion Wrecsam?
Ydych chi’n gweithio mewn ysgol?
Ers 2008, mae Cyngor Wrecsam wedi arbed £52 miliwn ar draws pob adran, a rhwng 2018 – 2020 rhaid i ni dorri £13 miliwn arall.
O ran addysg, mae hyn yn golygu dau newid posib ac rydym am glywed beth yw eich barn.
DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.
Yn gyntaf, y gwasanaeth cerddoriaeth. Nid yw hwn yn wasanaeth statudol, felly’r cynnig yw y bydd y cyngor yn stopio darparu’r cyllid y mae ysgolion yn ei ddefnyddio i dalu am y gwersi hyn, sy’n golygu os byddant am barhau i’w cynnig i ddisgyblion yna byddent yn talu amdanynt o’u cyllideb gyfredol.
Yr ail gynnig sydd wedi ei roi gerbron yw rhewi faint o arian sy’n cael ei ddyrannu i ysgolion am y ddwy flynedd nesaf. Bydd hyn yn golygu y bydd yn rhaid i ysgolion ysgwyddo pwysau chwyddiant.
Beth bynnag yw eich barn am y cynigion hyn, rydym am glywed gennych. Sicrhewch eich bod yn cwblhau ymgynghoriad Penderfyniadau Anodd eleni a dywedwch wrthym beth yw eich barn am hyn ac am gynigion arbed arian eraill.
Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.
DYWEDWCH EICH DWEUD GADEWCH I BOBL ERAILL BENDERFYNU