Mae tua thri chwarter o boblogaeth y byd yn siarad mwy na dwy iaith.

Mae siarad mwy nag un iaith yn cynnig dewis ehangach o weithgareddau cymdeithasol ac yn ehangu gorwelion.

Cymorth gyda chostau byw – hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi, lleihewch eich biliau, gofalwch am eich iechyd.

Wrth wneud cais am le mewn ysgol i’ch plentyn, mae hi werth ystyried y manteision y gall addysg cyfrwng Cymraeg eu cynnig.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi ymrwymo i ddarparu addysg o ansawdd a chydraddoldeb mynediad yn yr iaith genedlaethol maent yn ei dewis.

Rydym ni’n gweithio’n agos gydag amrywiaeth o bartneriaid a budd-ddeiliaid i godi safonau mewn llythrennedd a rhifedd ymhellach, ac er mwyn mynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyflawniad addysgol.

Rydym ni wedi llunio llyfryn sydd yn cynnwys rhagor o wybodaeth am fanteision addysg ddwyieithog.

Mae’r llyfryn yn cynnwys canllaw i fanteision dwyieithrwydd, yn dileu mythau penodol, yn cynnig astudiaethau achos ac yn cyfeirio pobl at ragor o adnoddau a sefydliadau Cymraeg.

Rydym ni hefyd wedi cynhyrchu fideo astudiaeth achos sy’n dangos manteision addysg Gymraeg.

Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg: “Daw cam pwysig ar daith addysgol plentyn wrth wneud cais am eu lle mewn ysgol. “Y dyddiad cau i dderbyn ceisiadau eleni yw 18 Tachwedd. “Wrth ddarllen trwy’r llyfryn a gynhyrchwyd, byddwch chi’n gallu gwneud penderfyniad mwy deallus wrth ddewis addysg ddwyieithog, neu addysg cyfrwng Saesneg i’ch plentyn.”

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd, Diwylliant a Chefnogwr y Gymraeg: “Gyda thîm pêl-droed Cymru wedi cymhwyso ar gyfer cwpan y byd, rhaglen ddogfen Welcome to Wrexham, a straeon llwyddiant eraill o Gymru yn rhoi sbotolau ar Gymru fel cenedl a’r Gymraeg, mae mwyfwy o bobl am ddysgu Cymraeg. “Mae addysg Gymraeg yn sgil allai roi mantais gystadleuol i’ch plentyn am oes.”

O ran costau byw, gallai gwneud yn siwr eich bod yn hawlio yr holl gymorth a chefnogaeth y mae gennych hawl iddo wneud gwahaniaeth mawr.

HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI