Wrexham Librar

A yw eich plentyn yn hoff o adeiladu gyda Lego?

Beth am eu hannog i ymarfer gyda meistr Lego!

Fe fydd Steve Guinness, enillydd rhaglen ‘Lego Masters’ Channel 4, yn ymweld â Llyfrgelloedd Wrecsam a’r Rhos yr hanner tymor hwn gan osod heriau adeiladu creadigol.  Bydd hefyd yn rhoi pecyn bach i’ch plant gludo adref gyda nhw fel y gallant adeiladu llyfr a phensel wedi ei wneud o Lego.

Ydych chi wedi derbyn llythyr/ffurflen ynglŷn â’r gofrestr etholiadol? Dilynwch y cyfarwyddiadau fel ein bod ni’n gwybod eich bod chi wedi cofrestru ac yn barod i bleidleisio.

Fe fydd y sesiynau hyn yn rhad ac am ddim ac maent yn rhan o ddathliadau hanner can mlwyddiant Llyfrgell Wrecsam ac fe fyddant ar gael ar yr amseroedd canlynol:

Dydd Mercher, Tachwedd 2
Llyfrgell Rhos
Oed: 4+
10.30am, 12pm, 1.30pm a 3pm
Mae archebu lle yn hanfodol – ffoniwch 01978 840328

Dydd Iau, Tachwedd 3
Llyfrgell Wrecsam
Oed: 4+
10.30am, 12pm, 1.30pm a 3pm
Mae archebu lle yn hanfodol – ffoniwch 01978 292090

Mae’r sesiynau yn rhad ac am ddim gan eu bod yn cael eu hariannu’n llawn gan Ddysgu Oedolion yn y Gymuned Gogledd Ddwyrain Cymru.

Gallwch ddarganfod mwy am Steve Guinness ar ei wefan, ‘The Brick Consultant’ – Comisiynau LEGO, Gweithdai a Hyfforddiant.

Mae rhagor o wybodaeth am hanner can mlwyddiant y llyfrgell ar gael yn yr erthygl flog hon: 6 ffaith nad oeddech chi’n eu gwybod am adeilad Llyfrgell Wrecsam.

Ydych chi wedi derbyn llythyr/ffurflen ynglŷn â’r gofrestr etholiadol?

PARATOWCH I BLEIDLEISIO