Efallai y byddwch wedi sylwi ar y gwaith adnewyddu sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd yn un o adeiladau mwyaf eiconig canol dinas Wrecsam.

Casgliad bin a fethwyd? Gadewch i ni wybod.

Mae gwaith wedi dechrau ar y safle yn 58 Stryt yr Hôb, rhan o Arcêd Ganolog Wrecsam, y cyntaf o nifer o adeiladau targed allweddol a nodwyd i adfywio Ardal Gadwraeth Ganol Dinas Wrecsam gyda chyllid grant a sicrhawyd drwy Gynllun Treftadaeth Treflun Wrecsam gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae newidiadau ar y gweill ar gyfer yr eiddo hwn, a fydd yn golygu dod â’r adeilad yn ôl i ddefnydd gyda safle masnachol ar y llawr gwaelod a 3 rhandy 2 ystafell wely ar y lloriau uwch.

Dywedodd Perchennog 58 Stryt yr Hôb:  “Mae gwybodaeth a chefnogaeth y Tîm Treftadaeth Treflun wrth i ni ailwampio 58 Stryt yr Hôb wedi ein helpu wrth i ni geisio dod â’r rhan bwysig hon o Dreftadaeth Wrecsam yn ôl i ddefnydd”

Nod y Cynllun Treftadaeth Treflun yw targedu 31 o adeiladau pwysig yn Ardal Gadwraeth Ganol Dinas Wrecsam i’w hadfywio a/neu eu hadnewyddu, gyda’r bwriad o atgyweirio eu nodweddion treftadaeth mwyaf amlwg a deniadol, gan greu defnydd economaidd i adeiladau gwag eto.

Mae grantiau bellach ar gael i berchnogion eiddo neu brydleswyr (gydag o leiaf 10 mlynedd yn weddill ar y brydles) ar gyfer adnewyddu rhai o’r adeiladau hynaf o fewn ffiniau’r Cynllun Treftadaeth Treflun, ac adfer elfennau pensaernïol a hanesyddol yr adeiladau, a gwella’r pethau sy’n eu gwneud yn bensaernïol unigryw.

Mae’r Cynllun Treftadaeth Treflun (CTT) yn darparu cyfle ardderchog i’n gweithluoedd lleol hyfforddi ac uwchsgilio’n berthnasol trwy’r contractau sy’n cael eu darparu trwy raglen y CTT, trwy eu cysylltu gyda rhaglen sgiliau adeiladu traddodiadol; gan sicrhau bod gweithlu medrus yn gallu ymgymryd â’r gwaith treftadaeth yn lleol ac yn rhanbarthol yn y dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi: “Mae’n gyfle gwych ar gyfer yr ardal adfywio yng nghanol y ddinas i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd drwy gyllid grant, ynghyd â chefnogi crefftwyr lleol, i sicrhau nad yw’r sgiliau adeiladu traddodiadol yn cael eu colli a sicrhau defnydd newydd i’r Adeilad Rhestredig ar ei newydd wedd”.

Os ydych chi’n landlord neu’n brydleswr ac yn awyddus i weld a ydych yn gymwys ar gyfer cyllid, neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y CTT, anfonwch e-bost at THS@wrexham.gov.uk i drefnu cyfarfod neu sgwrs anffurfiol.

Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.

RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD