Focus Wales
Trials of Cato

Bydd gŵyl FOCUS Wales yn croesawu 20,000 o bobl, a bydd dros 250+ o artistiaid o Gymru a ledled y byd, yn dod i Wrecsam rhwng 4 a 6 Mai. Heddiw, mae FOCUS Wales yn falch iawn o gyhoeddi 80 artist newydd arall at gynhyrchiad 2023.

Casgliad bin a fethwyd? Gadewch i ni wybod.

Ymysg yr 80 artist newydd sydd wedi’u cyhoeddi heddiw, mae… Jeffrey Lewis & The Voltage a ddisgrifir fel hoff gyfansoddwr indi roc dan ddaear y byd. Bydd Jeffrey Lewis a’i fand, o Efrog Newydd, yn perfformio yn Llwyn Isaf ar 4 Mai. Bydd The Trials of Cato enillwyr gwobrau gwerin hefyd yn perfformio ddydd Iau 4 Mai. Bydd y band Cymraeg amgen, ALASKALASKA sydd ym myd artistiaid eclectig megis Talking Heads a tUnE-yArDs, yn perfformio fel rhan sioe BBC Radio Wales a ddarlledir yn fyw o’r ŵyl, ddydd Sul 6 Mai.

Mae Jodie Marie, Baba Ali, Cowboyy, a CHROMA, hefyd wedi’u cyhoeddi heddiw, gan ymuno â rhestr ddisglair o artistiaid a gyhoeddwyd yn flaenorol, gan gynnwys The Coral, Billy Nomates, Adwaith, Squid, Dream Wife, The Joy Formidable, a Neue Grafik Ensemble.

Cyhoeddwyd y canlynol hefyd: 4Dee | Aisha Kigs | Alffa | AWST | Baby Brave | Bibi Club | Boy With Apple | BRACCO | Campfire Social | Cara Hammond | Carlota Flâneur | Cassidy Mann | Commander Spoon | Cosmic Dog Fog | Delta Ladies Choir | E1EVEN | Elina Lee | Ellen Froese | False Hope For The Savage | Ffenest | Fernie | God Alone | GRIEF | Grimelda | Gros Coeur | Haley Blais | Half/Time | Hanorah | Hause Plants | Hazmat | Holy Coves | Holy Nothing | Hourglvss | Isa Leen | Ivytide | Izra Fitch | Jack in Water | James and the Cold Gun | KINGKHAN | Kitty | La Flor Romanial | Laurence-Anne | Lizzie Squad | LohArano | MC Salum | Mercy Rose | Mouraine | Mr Phormula | Muddy Elephant | NADUH | New Wave Sound.Ent | Nita | Nuria Graham | One Kabira | Paperhouse | Perfectparachutepicture | Pillow Fite | Queen of Harps | SHLUG | Tara Bandito | Teddy Hunter | Telgate | Trypas Corassão | Wedance | Wrexham One Love Choir | XL the Band | Yasmine Latkowski | Yohvn Blvck | Zero + mwy!

Mae rhestr eleni hefyd yn cynnwys artistiaid o: Ynysoedd y Baleares | Gwlad Belg | Canada | Catalonia | Lloegr | Ffrainc | Gini | Iwerddon | Japan | Madagasgar | Mecsico | Seland Newydd | Portiwgal | Yr Alban | De Korea | Sweden | Taiwan | a’r Unol Daleithiau America + mae dros 100 o artistiaid eraill i’w cyhoeddi eto!

Gyda disgwyl i tua 500 o weithwyr proffesiynol cenedlaethol yn y diwydiant fynychu gŵyl 2023, FOCUS Wales yw digwyddiad mwyaf y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru bellach, gyda thri diwrnod llawn o baneli, sgyrsiau gan brif siaradwyr a chyngor yn ymwneud â’r diwydiant. Cyhoeddir mwy o artistiaid o’r diwydiant heddiw, gan gynnwys: Anika Mottershaw (Bella Union), Joy Warmann (Secretly Group), Andrea von Foerster (Firestarter Music, UDA), Jerome Williams (EBB, Yr Iseldiroedd), John Kerridge (Glastonbury), Adam Lewis (Planetary Group, UDA), a mwy!

Cynhelir FOCUS Wales 2023 ar 4, 5 a 6 Mai mewn sawl lleoliad yn Wrecsam, Gogledd Cymru. Mae bandiau arddwrn mynediad 3 diwrnod llawn ar gael nawr ar gyfer holl ddigwyddiadau FOCUS Wales ar www.focuswales.com/tickets.

Cefnogir FOCUS Wales gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Sefydliad PRS a Llywodraeth Cymru.

Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.

RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD