Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Adnewyddu eich casgliadau gwastraff gardd ar gyfer 2021/22 o heddiw ymlaen
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Adnewyddu eich casgliadau gwastraff gardd ar gyfer 2021/22 o heddiw ymlaen
Y cyngor

Adnewyddu eich casgliadau gwastraff gardd ar gyfer 2021/22 o heddiw ymlaen

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 1, 2021 4:16 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
green bin
RHANNU

*Yn syml, ewch i wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd cyn diwedd mis Awst i wneud eich taliad ar-lein. Dyma’r ffordd gyflymaf a hawsaf, ac mae’n golygu y gallech wneud eid taliad ar adeg sy’n addas i chi. Does dim brys – ond gwnewch yn siŵr eich bod wedi cofrestru erbyn Awst 30 i osgoi methu unrhyw gasgliadau.*

Cynnwys
  • Talwch ar-lein ble yn bosibl
      • Sticeri newydd ar gyfer 2021/22
      • Ni dderbynnir taliadau arian parod na siec
      • Pryd mae gwasanaeth 2020/21 yn dod i ben?
      • Nid wyf eisiau adnewyddu’r gwasanaeth – a wnewch chi gael gwared ar fy min gwastraff gardd?
      • Beth allai ei wneud gyda fy ngwastraff gardd os nad ydw i eisiau talu am y gwasanaeth casglu?

Os oeddech wedi talu ar gyfer casglu gwastraff gardd y llynedd, bydd eich bin gwyrdd yn parhau i gael ei gasglu tan ddiwedd mis Awst.

Os hoffech barhau gyda’r gwasanaeth hwn am y 12 mis nesaf, rydych nawr yn gallu talu am y gwasanaeth casglu gwastraff gardd ar gyfer 2021-22, sy’n dechrau ar ddiwedd mis Awst.

Os hoffech chi adnewyddu, neu os na wnaethoch chi ymuno â’r gwasanaeth y tro diwethaf ond yn awyddus i ni gasglu eich bin(iau) gwyrdd o 30 Awst, gallwch wneud taliad ar-lein.

Adnewyddu eich casgliadau gwastraff gardd ar gyfer 2021/22 o heddiw ymlaen

Talwch ar-lein ble yn bosibl

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym yn falch ein bod wedi rhewi cost y gwasanaeth ar £25 fesul bin gwyrdd y flwyddyn, sy’n parhau yn llai na’r gost gan nifer o awdurdodau eraill yng Nghymru a Lloegr.”

Dywedodd Darren Williams, Prif Swyddog Amgylcheddol a Thechnegol: “Mae nawr yn bosib adnewyddu, a’r ffordd orau a chyfleus i dalu am y gwasanaeth yw ar-lein yn www.wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd. Os nad oes modd i chi dalu ar-lein gallwch ffonio Gwasanaethau Stryd er mwyn gwneud taliad â cherdyn, ond mae’n debyg y bydd oedi wrth i’ch galwad gael ei ateb. Rydym yn argymell talu am y gwasanaeth ar-lein ble yn bosibl.”

Adnewyddu eich casgliadau gwastraff gardd ar gyfer 2021/22 o heddiw ymlaen

Sticeri newydd ar gyfer 2021/22

Bydd pawb sy’n ymuno’n  derbyn eu pecyn sticeri ym mis Awst cyn i’r gwasanaeth ddechrau ddiwedd y mis.

Bydd preswylwyr a fydd yn adnewyddu’r gwasanaeth yn derbyn sticer newydd. Bydd angen rhoi’r sticer yma mewn lle clir ar gaead y bin er mwyn sicrhau casgliadau o 30 Awst.

Gallwch ein helpu i sicrhau y byddwch yn derbyn eich sticer mewn pryd ar gyfer casgliad cyntaf 2021/22 trwy dalu am y gwasanaeth mewn da bryd. Gadewch o leiaf 10 diwrnod gweithio o’r dyddiad yr ydych yn cofrestru, er mwyn derbyn pecyn y sticer newydd.

Ni dderbynnir taliadau arian parod na siec

Y flwyddyn ddiwethaf, anfonodd sawl cwsmer arian parod neu siec atom ni, er mwyn ceisio talu am y gwasanaeth. Mae’n rhaid i ni bwysleisio nad oes modd i ni dderbyn y math yma o daliadau.

Pryd mae gwasanaeth 2020/21 yn dod i ben?

Fel yr ydych yn cofio, roedd oedi yn nyddiad cychwyn y gwasanaeth y llynedd oherwydd pandemig y coronafeirws ac felly estynnwyd y tanysgrifiadau tan 31 Awst, 2021.

Os ydych wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth yma, ond ddim yn adnewyddu ar gyfer 2021/22 ni fyddwn yn casglu eich bin(iau) gwyrdd o 31 Awst.

Nid wyf eisiau adnewyddu’r gwasanaeth – a wnewch chi gael gwared ar fy min gwastraff gardd?

Gellir cael gwared ar unrhyw finiau gwastraff gardd diangen os gofynnwch chi. Gallwch wneud cais am gael gwared ar fin gwastraff gardd trwy ddefnyddio ein ffurflen ‘bin neu focsys newydd’.

Ar ôl gofyn am gael gwared â’r bin, gall gymryd nifer o wythnosau i’r bin gael ei gasglu. Yn y cyfamser, gwnewch yn siŵr bod eich bin yn parhau i fod yn wag, yn hygyrch, ond heb ei adael allan gan achosi rhwystr.

Efallai y byddai’n werth cadw gafael ar eich hen fin gwastraff gardd am y tro, oherwydd os ceir gwared ar eich bin gwastraff gardd a’ch bod chi’n newid eich meddwl yn y dyfodol, codir tâl am un newydd.

Beth allai ei wneud gyda fy ngwastraff gardd os nad ydw i eisiau talu am y gwasanaeth casglu?

Gallwch fynd â’ch gwastraff gardd i un o’n canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref (yn rhad ac am ddim). Neu, fe allech gompostio’r gwastraff gardd gartref.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd

Adnewyddu eich casgliadau gwastraff gardd ar gyfer 2021/22 o heddiw ymlaen

Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/brechiad-covid-19-trefnu-apwyntiad-ar-lein/”]TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Os nad ydych wedi ymweld â safle trwyddedig ers tro, mae’n bosibl bod pethau ychydig yn wahanol i’r hyn rydych wedi arfer ag ef. Os nad ydych wedi ymweld â safle trwyddedig ers tro, mae’n bosibl bod pethau ychydig yn wahanol i’r hyn rydych wedi arfer ag ef.
Erthygl nesaf Recycling Didolwch eich deunyddiau cyn ymweld â’r canolfannau ailgylchu

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English