Mae Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cyhoeddi ei adroddiad blynyddol cyntaf sy’n rhoi cipolwg i ni o’u gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf i wella’r cyfleoedd iechyd a lles ar draws Wrecsam.
Mae’r adroddiad yn amlygu eu gwaith dros y flwyddyn gyntaf, maent wedi sefydli tri bwrdd rhaglen newydd sy’n canolbwyntio ar roi cychwyn iach i blant a phobl ifanc mewn bywyd, rhoi cyfleoedd i bawb ddysgu a datblygu trwy gydol eu bywydau i gyfrannu at Gymru iachach ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Mae hefyd yn cydnabod yr heriau mewn perthynas â gweithio gyda phartneriaeth mor enfawr ac amrywiol i anelu at un nod – “Y Wrecsam a Garem”.
Mae’r byrddau hyn yn cynnwys y bobl sydd â’r sgiliau a’r brwdfrydedd i gymryd rhan ac maent yn rhoi cynnig ar ffyrdd gwahanol o ddarparu’r blaenoriaethau eraill a gafodd eu nodi mewn ymgynghoriadau fel pethau sy’n bwysig i chi.
Dros yr ychydig wythnosau nesaf, byddwn yn ysgrifennu erthyglau i ddangos y gwaith mae’r byrddau rhaglen wedi’i wneud i symud ymlaen â’u gwaith.
Dywedodd Ian Bancroft y Prif Weithredwr: “Mae’r adroddiad hwn yn rhoi trosolwg o waith y Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus dros y 12 mis diwethaf a’r gwaith y maent yn ei wneud i wella pethau ar gyfer pawb yn Wrecsam ac ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru.
“Mae wedi bod yn broses heriol ond yn sicr, mae wedi bod yn broses werthfawr, a bydd y partneriaid yn parhau i weithio â’i gilydd i fynd i’r afael ag unrhyw anawsterau trefnu er mwyn rhoi’r Wrecsam a Garem i chi. Edrychwn ymlaen at rannu rhagor o erthyglau â chi yn yr wythnosau nesaf a fydd yn canolbwyntio ar y gwaith penodol yr ydym ni wedi bod yn ei wneud.”
Meddai Dirprwy Gadeirydd y Bwrdd, y Cyng Hugh Jones: “Yn dilyn gwaith ymgynghori ar raddfa fawr yn 2017, rydym wedi cynhyrchu ein cynllun pum mlynedd sy’n anelu at wella lles pawb sy’n byw yn Wrecsam, Mae Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus yn dod â sefydliadau ynghyd er mwyn gwneud gwahaniaeth, a dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gyflawni hynny.”
Mae Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus yn bartneriaeth o sefydliadau o fewn Wrecsam sy’n gweithio â’i gilydd i wella lles economaidd, amgylcheddol a diwylliannol y fwrdeistref sirol.
Er mwyn cyflawni hyn, mae’r Bwrdd yn cyfrannu at saith nod lles cenedlaethol, fel y nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru):
- Cymru lewyrchus
- Cymru gydnerth
- Cymru iachach
- Cymru sy’n fwy cyfartal
- Cymru o gymunedau cydlynus
- Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
- Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
Mae cymunedau wrth wraidd y gwaith ac yn cynrychioli pum ffactor allweddol:
“ cyfranogiad, cydweithio, hirdymor, integreiddio ac atal” – mae pob un o’r rhain wrth wraidd popeth a wnânt.
Gallwch ddarllen mwy am Fwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus yma.
Neu gallwch gael cipolwg ar yr adroddiad yma.
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION