Ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol, mae’n rhaid i bob cyngor yng Nghymru gyhoeddi adroddiad am ei wasanaethau cymdeithasol. Hwn yw ein hadroddiad ni.
Y nod yw gwerthuso pa mor dda y darparwyr ein gwasanaethau, ac amlygu unrhyw welliannau sydd eu hangen.
Mae hefyd yn gyfle i egluro sut ydym am helpu pobl yn ystod y flwyddyn sydd i ddod – pobl sydd angen gofal a chymorth, a gofalwyr sydd angen ein cymorth ni.
“Mae angen eich help chi arnom”
Mae’r modd y darperir gwasanaethau cymdeithasol yn cael effaith anferthol ar fywydau pobl, ond mae’r heriau a wynebir yn fwy nag erioed. Mae gennym lai o adnoddau ond mae’r galw’n cynyddu.
Felly mae hon yn ddogfen bwysig iawn a hoffem glywed eich barn – am y pethau yr ydym wedi’i wneud a’r hyn yr ydym wedi dweud y byddwn yn ei wneud.
Hefyd, hoffem wybod eich barn ar sut y cafodd yr adroddiad ei ysgrifennu. A yw’n hawdd i’w ddeall?
Os ydych yn defnyddio ein gwasanaethau neu’n adnabod rhywun arall sy’n eu defnyddio (neu os oes gennych ddiddordeb yn y gwaith yr ydym yn ei wneud), dyma eich cyfle i roi eich barn.
Lawrlwythwch y drafft ac anfonwch eich sylwadau neu gwestiynau trwy e-bost erbyn dydd Gwener, 8 Ebrill 2018.
Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol 2017/18 (Drafft ar gyfer ymgynghori)
Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.
DILYNWCH NI AR SNAPCHAT