New service makes it easy to report suspicious emails

Rydym wedi derbyn adroddiadau newydd o bobl yn derbyn negeseuon e-bost sy’n ymddangos yn swyddogol, sy’n cynnig ad-daliad ar Dreth y Cyngor iddynt.

Twyll ydi hyn!

Mae hwn yn dwyll cyffredin…peidiwch â chlicio ar unrhyw ddolen o fewn yr e-bost.

Mae’r e-bost yn dechrau drwy ddweud “You have a new message from GOV.UK about your Council Tax”.

Ymhellach i lawr y neges, mae’n dweud “You are getting a Council Tax Reduction (this used to be called Council Tax Benefit) considering you’re on a low income or get benefits”.

Yn ôl yr honiad, mae’r swm sy’n cael ad-dalu yn debygol o fod yn gannoedd o bunnoedd. Yn yr e-bost rydym ni wedi ei weld, roedd yn £385.50.

Ar waelod y neges gallwch glicio ar ddolen yn dweud “Claim your Council Tax Reduction Now”. Peidiwch â chlicio ar y ddolen.

Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws

Gwyddwn fod unrhyw beth sy’n dweud wrthych chi eich bod wedi talu gormod o Dreth y Cyngor yn edrych yn ddeniadol iawn, ac mae temtasiwn i ddilyn y negeseuon hyn, ond wrth wneud hynny, byddwch yn agored i bobl ddwyn eich gwybodaeth.

Cofiwch, os yw rhywbeth yn swnio’n rhy dda i fod yn wir, mae’n debyg ei fod.

Sut i ddelio â negeseuon e-bost amheus

Yn ddiweddar, creodd y Ganolfan Seiberddiogelwch Cenedlaethol (NCSC), Wasanaeth i Adrodd am Negeseuon E-bost Amheus, sy’n ei gwneud yn hawdd i bobl anfon unrhyw negeseuon e-bost amheus iddynt.

Yna bydd yr NCSC yn dadansoddi’r e-bost ac unrhyw wefannau sy’n gysylltiedig â’r neges.

Gallwch ddod o hyd i’r manylion yma… 

“Ond beth os oes gen i hawl am ad-daliad?”

Os ydych chi’n credu bod gennych hawl i ad-daliad Treth y Cyngor, mae ffordd syml iawn o gael gwybod hyn.

Ffoniwch ein llinell gymorth cyllid ar 01978 298992 neu anfonwch e-bost at counciltax@wrexham.gov.uk

Byddent yn fwy na bodlon i wirio eich cyfrif a rhoi unrhyw gymorth sydd ei angen arnoch.

Adrodd am drosedd seiber

Os ydych chi’n credu eich bod wedi bod yn ddioddefwr twyll neu drosedd seiber, dylech adrodd am hyn i Action Fraud drwy eu gwefan neu drwy ffonio 0300 123 2040.

Action Fraud yw’r Canolfan Cenedlaethol Adodd am Dwyll a Throsedd Seiber yn y DU.

Cadwch yn ddiogel a byddwch yn ymwybodol o dwyll.

Sut i gael prawf

YMGEISIWCH RŴAN

Mae negeseuon testun neu alwadau ffôn sy’n cynnig ad-daliad Treth y Cyngor yn dwyll.