Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae negeseuon testun neu alwadau ffôn sy’n cynnig ad-daliad Treth y Cyngor yn dwyll.
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Mae negeseuon testun neu alwadau ffôn sy’n cynnig ad-daliad Treth y Cyngor yn dwyll.
Pobl a lleY cyngor

Mae negeseuon testun neu alwadau ffôn sy’n cynnig ad-daliad Treth y Cyngor yn dwyll.

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 16, 2020 11:09 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Scams
RHANNU

Rydym wedi derbyn adroddiadau newydd o bobl yn derbyn negeseuon testun neu alwadau ffôn sy’n cynnig ad-daliad iddynt ar Dreth y Cyngor.

Cynnwys
  • “Twyll ydi’r rhain!”
  • “Ond beth os byddaf yn meddwl fy mod mewn credyd?”

“Twyll ydi’r rhain!”

Maent yn ffurfiau cyffredin o dwyll ac mae’n rhaid i ni bwysleisio eto nad yw’r negeseuon testun na’r galwadau ffôn yn wir.

Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws

Maent yn ffurfiau cyffredin o dwyll ac mae’n rhaid i ni bwysleisio eto nad yw’r negeseuon testun na’r galwadau ffôn yn wir.

Rydym yn gwybod bod unrhyw beth sy’n dweud ei bod yn bosib eich bod wedi talu gormod o Dreth y Cyngor yn gallu ymddangos yn atyniadol, a gall fod yn demtasiwn i ddilyn negeseuon o’r fath neu roi gwybodaeth dros y ffôn.

Fe wnaeth aelod o’r cyhoedd glicio ar y ddolen o fewn y neges destun ac fe gawsant eu cyfeirio at beth oedd yn ymddangos fel gwefan Cyngor Wrecsam. Yna gofynnwyd am eu manylion banc.

Yn syml -nid ydym yn anfon negeseuon testun ynglŷn ag ad-daliadau Dreth y Cyngor nac yn gwneud galwadau ffôn i drigolion am eu Treth y Cyngor

Felly, gallwch fod yn sicr bod unrhyw neges destun neu alwad ffôn sy’n dweud wrthych eich bod wedi talu gormod o Dreth y Cyngor yn amheus.

Fel gydag unrhyw dwyll, dylech ystyried ambell reol syml –

Peidiwch â chlicio ar unrhyw ddolenni, peidiwch byth â rhoi unrhyw fanylion – fel cyfrineiriau neu rif cyfrif banc – a chofiwch fod gennych hawl i anwybyddu unrhyw negeseuon amheus. Os cysylltir â chi dros y ffôn peidiwch â rhoi na chadarnhau unrhyw fanylion. Yn hytrach na hynny dywedwch wrthynt y byddwch yn ffonio rhif y llinell gymorth isod i wirio’r manylion.

“Ond beth os byddaf yn meddwl fy mod mewn credyd?”

Os ydych yn meddwl eich bod mewn credyd gyda’ch cyfrif Treth y Cyngor, yna mae yna ffordd syml iawn i gael gwybod.

Ffoniwch ein llinell gymorth ariannol ar 01978 298992 neu e-bostiwch counciltax@wrexham.gov.uk

Fe fyddant yn hapus iawn i wirio eich cyfrif a rhoi unrhyw gymorth rydych ei angen.

Arhoswch yn ddiogel a byddwch yn ymwybodol o dwyll.

Sut i gael prawf

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws”] YMGEISIWCH RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Nodyn atgoffa - Profi mynediad-rhwydd yng nghanol tref Wrecsam Nodyn atgoffa – Profi mynediad-rhwydd yng nghanol tref Wrecsam
Erthygl nesaf Ele Glanach a thawelach…y cyngor yn profi wagen finiau drydan newydd

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Pobl a lle

Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni

Awst 11, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English