Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Diolch bawb! Roedd y Rhith Ddiwrnod Chwarae yn llwyddiant mawr a gyrhaeddodd at 4 miliwn o bobl ????
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Fideo > Diolch bawb! Roedd y Rhith Ddiwrnod Chwarae yn llwyddiant mawr a gyrhaeddodd at 4 miliwn o bobl ????
FideoY cyngor

Diolch bawb! Roedd y Rhith Ddiwrnod Chwarae yn llwyddiant mawr a gyrhaeddodd at 4 miliwn o bobl ????

Diweddarwyd diwethaf: Awst 14, 2020 10:47 am
Rhannu
Darllen 5 funud
RHANNU

Roedd Diwrnod Chwarae 2020 yn wahanol iawn yn Wrecsam eleni – ond fe weithiodd a diolch i’ch cefnogaeth chi, fe gyrhaeddodd y fideos niferus a baratowyd dros 4 miliwn o bobl 🙂

Hoffem ddiolch i bawb a wnaeth ffilm neu a rannodd ffilm hyd yn oed ar y cyfryngau cymdeithasol. Gwyddom fod nifer ohonoch yn methu a bod yn egnïol fel y byddech wedi hoffi bod oherwydd eich bod yn gwarchod ne ar ffyrlo, ond gobeithio i chi allu gwylio o’ch cartref.

Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws

Ar y diwrnod:

  • Llwythwyd 51 o ffilmiau ar YouTube a’n sianelau cyfryngau cymdeithasol
  • Gwylwyd y ffilmiau 843 gwaith ar YouTube (dydy hyn ddim yn cynnwys y nifer a wyliodd ar Facebook a Trydar yn uniongyrchol) (06.08.20)
  • 1670 clic ar y cynnwys
  • Cyrraedd 4m

Bu nifer ohonoch yn cefnogi ein Tîm Chwarae, fel rydych yn gwneud bob blwyddyn, gan dderbyn ffordd newydd o wneud pethau. Ni allwn ddiolch digon i chi (mae gormod ohonoch i ddiolch yn uniongyrchol) oherwydd gwyddom eich bod yn rhannu ein gweledigaeth ni wrth i wneud rhywbeth clên dros blant Wrecsam a chefnogi eu hawl nhw i chwarae.

“Cefnogaeth wych unwaith eto i’r Diwrnod Chwarae”

Meddai’r Cynghorydd Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol y Gwasanaethau Plant: “Roedd yn ddigwyddiad gwych unwaith eto ac mae’r staff yn haeddu clod am yr holl waith a wnaethant er mwyn sicrhau na wnaeth ein pobl ifanc golli’r cyfle i fwynhau eleni. Roeddwn i wedi gobeithio aros yn sych eleni gan mai rhith ddigwyddiad oedd o – ond nid felly y bu gan fod fy mhlant fy hun yn benderfynol fy mod yn rhan o’r hwyl. Diolch i bawb am eich cefnogaeth wych unwaith eto i’r Diwrnod Chwarae.”

Eleni fe groesawyd pobl newydd i’r tîm Diwrnod Chwarae, hysbysebodd y Co-op y “gwneud sŵn” yn ei siopau yn Wrecsam a gweithiodd Beth a Craig o adran gyfathrebu’r cyngor yn ddiflino er mwyn cael y clipiau’n barod a rhannu’r clipiau drwy’r dydd.

Roedd Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam, sydd fel arfer yn rhedeg y man gwybodaeth, yn gallu cael hwyl yn chwarae eleni a gwnaethant eu neidr garreg eu hunain. Roedd pobl fyddai fel arfer yn ymweld er mwyn dangos eu cefnogaeth, yn chwarae rhan fwy gweithredol a chafwyd straeon ac anerchiad gan y Maer Rob Walsh (a ysgrifennodd ei stori ei hun a chwarae’r drymiau), Cyng John Pritchard (Aelod Arweiniol dros Bobl, Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrth-dlodi) Cyng Andrew Atkinson (Aelod Arweiniol dros Wasanaethau Plant), Donna Dickenson (Pennaeth Atal a Chynhwysiad) a Craig Mathews (Arweinydd Cymunedol ac Adferol).

Buom yn rhannu nifer o ffilmiau hefyd gyda Chynghorau Conwy a Chaerdydd a dyma’r tro cyntaf i’n Diwrnodau Chwarae gael eu cysylltu. Fe gynhyrchodd y Tîm Gwaith Ieuenctid mewn Addysg, sydd fel arfer ar eu gwyliau dros yr haf, eu fersiwn eu hunain o Old Mc Donald, gan ddefnyddio anifeiliaid go iawn gan ddangos ochr chwareus arnynt eu hunain. Hoffem ddiolch hefyd i’r holl blant a theuluoedd fu naill ai tu ôl neu o flaen y camerâu er mwyn gwneud y ffilmiau. Roedd hi’n wych gweld cynifer ohonoch yn cymryd rhan.

Y gobaith y flwyddyn nesaf yw y byddwn yn ôl ym miri arferol canol y dref ar ddydd Mercher, Awst 4 ac nid yn poeni am isdeitlau neu drosglwyddo clipiau ffilm. Roedd eleni’n brofiad newydd i bawb a bydd ein clipiau ffilm ar gael o hyd i’n hatgoffa ni ymdrech mor dda wnaeth pawb – a byddant yn aros ar YouTube y cyngor i ni gael mynediad atynt.

Gall staff fwynhau egwyl haeddiannol rŵan ac maen nhw’n falch o hynny, ac am eleni o leiaf, doedd yna ddim cardfwrdd gwlyb, pelts a thywod i’w cadw.

Os colloch chi unrhyw beth, gallwch weld y cyfan ar Youtube 🙂

Sut i gael prawf

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws”] YMGEISIWCH RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol free workshop, Wrexham businesses, Wrexham business owners, export your website workshop Newyddion i Fusnesau yn Wrecsam (13.08.20)
Erthygl nesaf New service makes it easy to report suspicious emails Adroddiadau newydd o negeseuon e-bost twyll yn cynnig ad-daliad Treth y Cyngor

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrecsam 2029
Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU
Pobl a lle
Hydref 22, 2026
Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref
Pobl a lle Arall
Hydref 21, 2026
Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Pobl a lle
Hydref 21, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysg Pobl a lle
Hydref 21, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English