Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ai dyma’r ffordd hawsaf i ailgylchu eich dillad?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Ai dyma’r ffordd hawsaf i ailgylchu eich dillad?
Pobl a lleY cyngor

Ai dyma’r ffordd hawsaf i ailgylchu eich dillad?

Diweddarwyd diwethaf: Mai 17, 2019 10:52 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Clothes Clothing Recycling Textiles
RHANNU

Pan fyddwch yn clywed y gair ‘ailgylchu’, mae’n siŵr nad dillad yw’r peth cyntaf sy’n dod i’r meddwl.

Cynnwys
  • Ailgylchu dillad ar y palmant
  • 300,000 tunnell
  • Mae angen newid

Rydym yn clywed cymaint am blastig, metel, papur a gwydr, felly’r pethau hyn sy’n dod i’r meddwl yn gyntaf.

Ailgylchu dillad ar y palmant

Ond wyddoch chi y gellid ailgylchu dillad ac esgidiau ar y palmant yn Wrecsam? Wel mae’n bosib 🙂

EISIAU MWY O AWGRYMIADAU A GWYBODAETH? COFRESTRWCH I DDERBYN EIN CYLCHLYTHYRAU AILGYLCHU AR E-BOST…

Gallwch roi dillad ac esgidiau (rhaid i esgidiau fod mewn parau) mewn bagiau plastig clir – fel y gall ein tîm ailgylchu weld beth sydd ynddynt – ac os byddwch yn gadael y rhain gyda gweddill eich ailgylchu, bydd ein tîm yn eu casglu er mwyn eu hailgylchu.

Fodd bynnag, rhaid mynd ag eitemau defnydd mwy o faint, fel dillad gwely a llenni, i unrhyw un o’n tair canolfan ailgylchu, a gallwch fynd a’ch dillad a’ch esgidiau yno hefyd.

Gallwch ailgylchu digon o ddefnyddiau eraill yn ein canolfannau ailgylchu hefyd. Mae’n canolfannau ailgylchu yn y lleoliadau canlynol:

Lôn y Bryn, Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam
Banc Wynnstay, Plas Madoc
Y Lodge, Brymbo

300,000 tunnell

Yn ddiweddar cyhoeddodd Pwyllgor Archwilio Amgylcheddol y Llywodraeth yr adroddiad ‘Fixing Fashion’, sy’n amlygu rhai ffigyrau sy’n peri pryder o ran y dillad sy’n cael eu gwaredu yn y DU.

Rhoddir tua 300,000 tunnell o wastraff tecstil (sy’n cynnwys dillad) i finiau du bob blwyddyn, sydd un ai yn cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi neu’n cael eu llosgi.

Mae’n ffigyrau ein hunain yn dangos ein bod yn Wrecsam rhwng Ebrill 2018 a Mawrth 2019 wedi dod o hyd i 6,281 tunnell o wastraff tecstil yn ein casgliadau bin.

Mae’r ffigyrau cenedlaethol a lleol hyn yn achosi pryder, ac yn dangos bod llawer o le i wella, achos mae sawl opsiwn gwell ar gyfer eich hen ddillad na’u rhoi yn eich bin du.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae ailgylchu tecstilau yn faes y mae’n rhaid i ni wella ynddo yn Wrecsam, yn enwedig felly o safbwynt dillad ac esgidiau.

“Os rhowch eich dillad a’ch esgidiau mewn bagiau plastig clir a’u gadael gyda gweddill eich ailgylchu ar ddiwrnod casglu, fe wnawn ni eu hailgylchu i chi… does dim angen i chi lenwi’ch bin du gyda’r eitemau hyn.

“Cyn mynd yn syth at eich bin du, stopiwch a gofynnwch i’ch hun “alla’ i ailgylchu hwn?”… achos yn aml, bydd modd i chi ei ailgylchu, a bydd y dull gweithredu cadarnhaol hwn yn ein helpu ni yma yn Wrecsam i ailgylchu yn well.”

Mae angen newid

Mae’r adroddiad ‘Fixing Fashion’ yn dangos bod y ffordd rydym yn cynhyrchu, yn defnyddio ac yn taflu’n dillad yn anghynaladwy.

Mae cynhyrchu tecstilau yn cyfrannu’n sylweddol at newid hinsawdd, ac mae ffibrau synthetig yn achosi problem yn ein moroedd, ac mae angen newid.

Mae’n gyfrifoldeb arnom ni i wneud y newid hwnnw.

Eisiau mwy o awgrymiadau a gwybodaeth? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrau ailgylchu ar e-bost…

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_24″] COFRESTRU [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Design School Lunch Healthy Plastic Free Rhowch gynnig ar y gystadleuaeth hon i gynllunio cinio ysgol sy’n iach ac yn ddi-blastig
Erthygl nesaf Cwrs Cyn-Filwyr i Fusnes – Ai dyma’r cwrs i chi? Cwrs Cyn-Filwyr i Fusnes – Ai dyma’r cwrs i chi?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026
Minera Roof Trusses
Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi
Busnes ac addysg
Awst 28, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
DigwyddiadauPobl a lle

Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr

Awst 26, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English