Torrodd Faer Wrecsam, y Cyng. John Pritchard, y rhuban i ail-agor y cyfleusterau newydd at y Byd Dŵr yn swyddogol.
Mae’r gwaith o ailwampio cyfleusterau canol tref Wrecsam bellach wedi ei gwblhau ar ôl pum mis o welliannau a buddsoddiad o £1.5 miliwn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Cafodd y gwaith hwn, yn ogystal â gwelliannau i ganolfannau eraill yr awdurdod lleol (sy’n dod i gyfanswm o £2.7 miliwn), ei wneud i ddarparu cyfleusterau heb eu hail i drigolion ac ymwelwyr Wrecsam.
Mae’r newidiadau a wnaed i’r Byd Dŵr yn amlwg iawn wrth i chi gamu i mewn i’r adeilad eiconig. Mae’r hen fynedfa bellach yn stiwdio beicio MYRIDE newydd sbon danlli, gyda meddalwedd beicio rhith a golygfeydd godidog sy’n darparu profiad beicio anhygoel i unigolion a grwpiau.
DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.
Mae’r gampfa hefyd wedi ei gweddnewid ac yn cynnwys yr offer diweddaraf yn ogystal â llwyfan Omnia. Un o nodweddion newydd y gampfa yw’r system Technogym Wellness Cloud, sy’n galluogi aelodau i fonitro eu cynnydd. Gallwch hefyd ddefnyddio’r ap a’r ffon USB personol (yr ydych chi’n ei roi yn yr offer) i dracio’ch ymarferion.
Bydd ymwelwyr i’r Ganolfan Hamdden a Gweithgareddau yn camu i mewn i fynedfa newydd, gydag eisteddle a chaffi sy’n gwerthu Costa Coffee. Mae ystafelloedd newid y merched ar y llawr gwaelod hefyd wedi eu hailwampio i ddarparu gofod modern a golau.
Ymunodd Lesley Griffiths AC a Mark Isherwood AC â Maer Wrecsam, y Cyng. Paul Rogers, y Cyng. Paul Jones, a chyfarwyddwyr Freedom Leisure, i wylio arddangosiadau o’r llwyfan Omnia, a bu i rai ohonyn nhw hyd yn oed gymryd rhan!
Meddai Andy Harris, Rheolwr Ardal Freedom Leisure: “Roedd yr agoriad swyddogol yn gyfle i nodi diwedd y gwelliannau a throsglwyddo’r cyfleusterau i’r cyhoedd, ac roeddem ni’n falch iawn bod Aelodau’r Cynulliad a chynghorwyr lleol wedi ymuno â ni.
“Rydym ni’n falch iawn o’r cyfleusterau newydd, yn enwedig y stiwdio beicio a’r gampfa, sydd cystal os nad gwell na chyfleusterau campfeydd preifat! Yn bwysicach fyth, mae defnyddwyr eisoes wedi rhoi gwybod i ni pa mor hapus ydyn nhw gyda’r cyfleusterau a’r cynigion newydd – ac mae’n braf iawn clywed hynny.
“Hoffem ddiolch unwaith eto i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam am sicrhau’r cyllid gan Lywodraeth Cymru ac am fuddsoddi yn y ganolfan hon. Mae Freedom Leisure yn falch o ddarparu gwasanaethau lleol o ansawdd uchel ac wedi ymrwymo i ddatblygu a chefnogi’r amcanion a rennir gyda phartneriaid. Rydym ni’n edrych ymlaen at groesawu sawl aelod newydd, a fydd yn cael eu denu at y cyfleusterau gwych sydd gennym ni yma”.
Dywedodd y Cyng. Paul Rogers, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrth Dlodi, sydd hefyd â chyfrifoldeb dros hamdden: “Mae’r cyfleusterau newydd yn wych, ac roeddwn i’n ddigon ffodus o gael cyfle i fynd o amgylch y cyfleusterau newydd ar lawr gwaelod y Byd Dŵr.
“Ers derbyn swydd Aelod Arweiniol rwyf wedi talu sylw manwl i’r gwaith cyfalaf ac rwyf wastad wedi dweud bod cynnydd y gwaith wedi bod yn ardderchog. Mae’n rhaid i mi ddweud, mae’r llawr gwaelod, yn enwedig y caffi a’r eisteddle newydd, yn edrych yn hollol wahanol ac wedi newid yn sylweddol ers dechrau’r gwaith.
“Hoffaf hefyd ddiolch i’r Cyng. Hugh Jones, y cyn-aelod arweiniol a oedd yn gyfrifol am hamdden pan lofnodwyd y contract gyda Freedom Leisure yn ystod y gwanwyn y llynedd.”
Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.
DYWEDWCH EICH DWEUD [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new”