Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ailddatgan ein hymrwymiad i’r Lluoedd Arfog
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Ailddatgan ein hymrwymiad i’r Lluoedd Arfog
Pobl a lleY cyngor

Ailddatgan ein hymrwymiad i’r Lluoedd Arfog

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 16, 2019 3:55 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Ailddatgan ein hymrwymiad i’r Lluoedd Arfog
RHANNU

Gwyddom fod gan Wrecsam gysylltiadau sefydledig â’r lluoedd arfog.

Felly mae’n iawn i ni gydnabod y cyswllt hwnnw a gwneud popeth y gallwn i gefnogi ein cymuned lluoedd arfog.

Mae’r Cynghorydd David Griffiths, Cefnogwr Y Lluoedd Arfog Cyngor Wrecsam, wedi arwyddo Cyfamod y Lluoedd Arfog newydd mewn seremoni ym Marics Hightown.

CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .

Arwyddodd y cyngor y cyfamod gwreiddiol nôl yn 2013, ynghyd â nifer o bartneriaid allweddol megis Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Prifysgol Glyndŵr, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam a chynrychiolwyr o’r fyddin, y llynges a’r awyrlu.

Yn ddiweddar, mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi annog sefydliadau i arwyddo eu cyfamodau eu hunain, felly mae pob un yn cydnabod eu hymrwymiad i’r addewid yn unigol.

I ail-ddatgan ymrwymiad Cyngor Wrecsam, arwyddodd y Cynghorydd Griffiths gyfamod newydd ochr yn ochr â’r Cyrnol Nick Lock, Dirprwy Gomander Brigâd 160.

Roedd Shenkin IV, masgot catrodol Byddin Frenhinol Cymru, yn bresennol yn y seremoni, ynghyd â phersonél milwrol ac aelodau o Weithgor Cyfamod Lluoedd Arfog Wrecsam, sy’n sicrhau bod ymrwymiadau i’r addewid yn cael eu cyflawni.

Ailddatgan ein hymrwymiad i’r Lluoedd Arfog

Dywedodd y Cyng. Griffiths: “Ers arwyddo Cyfamod y Lluoedd Arfog yn ôl yn 2013, rydym wedi gweithio ochr yn ochr â nifer o bartneriaid i wneud llawer o waith pwysig i gefnogi cyn-filwyr a’n cymuned lluoedd arfog.

“Roeddwn yn falch iawn o allu ailddatgan ein hymrwymiad i gymuned y lluoedd arfog – mae’r lluoedd arfog yn uchel iawn eu parch yn Wrecsam ac fel ardal mae gennym gysylltiadau cryf â’r lluoedd arfog, felly nid yw ond yn briodol ein bod yn cydnabod hynny ac yn eu cefnogi.”

Mae rhywfaint o’r gwaith a wnaethpwyd gan y grŵp ers i’r cyfamod gael ei arwyddo yn cynnwys cefnogi cynlluniau tai ein Cymuned Lluoedd Arfog yn Nhŷ Dewr a Tŷ Ryan, sydd ill dau bellach yn llawn ac yn cefnogi cyn-filwyr i symud ymlaen i fyw’n annibynnol.

Sicrhaodd y prosiectau hyn dros £1.6 miliwn o fuddsoddiad gan y Weinyddiaeth Amddiffyn a byddant yn parhau i ddarparu help angenrheidiol yn y dyfodol.

Mae canolfan galw heibio Y Lleng Brydeinig Frenhinol bellach yn lletyo grŵp cefnogaeth cymheiriaid o’r enw Woody’s Lodge sy’n rhoi help a chymorth ymarferol i aelodau ein cymuned lluoedd arfog gydag unrhyw broblemau sydd ganddynt.

Rydym hefyd wedi bod yn cefnogi ein Swyddog Cyswllt y Lluoedd Arfog, Janette Williams, ac fe ariannwyd ei swydd hi gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Mae Janette wedi gweithio gyda grwpiau lleol i sicrhau grantiau bach gwerth dros £58,000 o Gronfa Ymddiriedolaeth Cyfamod y Lluoedd Arfog dros y 18 mis diwethaf.

Aeth y grant diweddaraf tuag at brosiect sy’n cefnogi plant personél y gwasanaeth mewn ysgolion cynradd yn Wrecsam, trwy eu helpu i feithrin eu sgiliau cydweithredu, cyfathrebu, datrys problemau, gweithio mewn tîm a gwytnwch.

Rydym hefyd wedi cefnogi nifer o weithgareddau dinesig a chefnogi trwy gydol y flwyddyn, megis digwyddiad Rhyddid yr Awyrlu Brenhinol a gynhaliwyd yr haf diwethaf; a’r rhaglen o weithgareddau cofio a gynhaliwyd yn ystod yr hydref i nodi 100 mlynedd ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.

Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_61″] DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Waste Dim Newidiadau i Gasgliadau Bin dros Gyfnod y Pasg
Erthygl nesaf Mae’r Helfa Fawr Wy Pasg yn dechrau yng nghanol y dref yfory (Ebrill 18) Mae’r Helfa Fawr Wy Pasg yn dechrau yng nghanol y dref yfory (Ebrill 18)

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysg Y cyngor
Medi 4, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 4, 2026
Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.

Medi 2, 2026
Yorke Street
ArallPobl a lle

Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr

Medi 1, 2026
Blue emergency services light
ArallPobl a lle

Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Medi 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English