Ailwampio’r Cyrtiau Tennis a Chreu Llecyn Gemau Amlddefnydd Newydd ym Mharc Bellevue
Mi fydd yna lawer o fynd a dod ym Mharc Bellevue yr wythnos nesaf wrth i’r gwaith ar ailwampio’r prif gyrtiau tennis a chreu Llecyn Gemau Amlddefnydd newydd ddechrau.
Dywedodd y Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:
“Ariennir y gwaith hwn yn defnyddio cyfraniadau Adran 106 a roddwyd i’r Cyngor yn ogystal â chyllid a dderbyniwyd gan Gymuned Offa – rydym ni’n ddiolchgar iawn iddynt am eu cefnogaeth. Mae’r parc hwn yn un poblogaidd iawn ac mae’n braf gweld arian yn cael ei wario arno i’w er mwynhad pawb”.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
“pobl leol o bob oed wrth eu bodd yn dod yma”
Roedd yr Aelod Lleol, y Cyng. Phil Wynn yn croesawu’r newyddion, meddai:
“Mae’r parc yma’n boblogaidd tu hwnt ac mae pobl leol o bob oed wrth eu bodd yn dod yma. Mae’n hanfodol felly ei bod yn parhau’n ardal ddeniadol i bawb. Bydd y gwaith yma’n cynnwys gwella dau gyfleuster chwaraeon awyr agored ac rydw i’n falch iawn bod y gwaith ar fin dechrau. Hoffaf ddiolch i Gyngor Cymuned Offa am eu cefnogaeth ariannol.”
“rhywfaint o darfu”
Bydd y gwaith yn tarfu rhywfaint ar ddefnyddwyr y parc, ond ni ddylai’r gwaith gymryd mwy nag ychydig wythnosau. Pan fydd y gwaith yn tarfu ar y prif lwybr, bydd llwybr amgen ar gael i wneud yn siŵr bod pobl yn dal yn gallu mwynhau’r parc poblogaidd hwn.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI