Mae’r Neuadd Goffa ynghanol tref Wrecsam wedi’i hadnewyddu mewn pryd ar gyfer canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf ddydd Sul.
Adeiladwyd y Neuadd ym 1956 i goffáu’r rhai hynny a laddwyd yn yr Ail Ryfel Byd, ac ers hynny gosodwyd nifer o lechi coffa y tu mewn i’r Neuadd a’r tu allan.
Yn ogystal ag enwau’r meirw o’r Ail Ryfel Byd, mae yno ddau blac efydd er cof am y rhai a laddwyd yn y Rhyfel Mawr, ynghyd ag enwau gweithwyr y Cyngor Bwrdeistref a fu farw yn y ddau ryfel, a llechen sy’n cyfeirio at Seren Byrma.
Y tu allan ceir cofebion i’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, y senotaff adnabyddus lle cynhelir Gwasanaeth Sul y Cofio bob blwyddyn, yn ogystal â Chloch Byrma, Cofeb Cyn-filwyr Normandi, Cofeb Rhyfel y Malfinas a chofeb i’r Awyr-lefftenant D S A Lord VC, DFC, a arferai sefyll ar y gornel rhwng Ffordd Grosvenor a Stryt y Rhaglaw.
Yn y gorffennol roedd ymwelwyr wedi sôn fod y lle braidd yn ddifflach wrth iddynt ddod i dalu eu teyrngedau, ond bellach mae yno seddi newydd, baneri a phaneli gwybodaeth sy’n adrodd hanes y Neuadd.
Mae yno hefyd lwyfan newydd ar gyfer gosod torchau, lle gall pobl ddod â’u torchau a’u croesau eu hunain er cof am eu hanwyliaid. Arferai’r rhain gael eu gosod yn erbyn y waliau, lle’r oeddent yn aml yn disgyn ac yn mynd yn flêr. Mae’r llwyfan newydd yn rhoi mwy o barch i’r teyrngedau hyn.
Mr Roy Bellis a osododd y dorch gyntaf, er cof am ei dad, Jack Bellis, un o gyn-filwyr y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a frwydrodd ar draethau Normandi, ac a fu farw eleni yn 102 mlwydd oed.
Rhoddwyd wyneb newydd ar du blaen yr adeilad, a bydd ymwelwyr bellach yn medru gweld y Neuadd am yr hyn ydyw – Cofadail i’r rhai hynny a laddwyd ar faes y gad.
Meddai’r Cynghorydd David Griffiths, Cefnogwr y Lluoedd Arfog: “Rydyn ni wedi gallu gwneud yr holl waith yn y Neuadd Goffa diolch i gyllid o Gronfa Ymddiriedolaeth Gymunedol y Lluoedd Arfog, ac rydym yn ddiolchgar dros ben am y gefnogaeth. Mae’r Neuadd Goffa’n adeilad adnabyddus iawn, ond roeddwn i weithiau’n teimlo ein bod yn dechrau anghofio pam adeiladwyd y neuadd yn y lle cyntaf, ond mae’n addas iawn ein bod nawr yn olrhain hanes y lle, ac mae’r meinciau a’r baneri newydd yn rhoi gwir deimlad o goffadwriaeth a pharch.”