Mae gennym oll ein syniadau ein hunain ar gyfer canol tref Wrecsam…
Efallai nad ydych yn rhannu eich syniadau…neu efallai eich bod yn trafod eich syniadau gyda’ch ffrindiau.
Ond, mae’n bryd rhannu’r syniadau hynny gyda ni.
Mae’n gwneud lles i rannu – a gall eich syniadau a barn helpu i gadw a gwella cymeriad a golwg canol y dref?
Mae’r ymgynghoriad hwn yn gwneud hyn yn bosibl… felly os hoffech gael dweud eich dweud am ganol y dref, cymerwch ran!
Diogelu Canol Tref Wrecsam
Mae’r ymgynghoriad yn dilyn arolwg diweddar, pan ofynnwyd i chi beth oedd y blaenoriaethau ar gyfer cadw a gwella cymeriad a golwg canol y dref…
Defnyddiwyd canlyniadau’r arolwg hwnnw er mwyn diweddaru’r cynllun cyfredol, a gweithio tuag at ddatblygu cynllun gweithredu ar gyfer yr ardal gadwraeth am y 10 mlynedd nesaf.
Enw’r cynllun hwn yw Cynllun Asesu a Rheoli Nodweddion yr Ardal Gadwraeth – ac anogir chi i fod yn rhan ohono.
Felly nawr, hoffwn glywed eich barn chi am y cynllun ddrafft – a gallwch roi gwybod i ni drwy gwblhau’r ymgynghoriad…
Cymryd rhan
Drwy gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, cewch ddarllen yr hyn sydd wedi cael ei lunio’n barod a rhoi eich barn arno… a chewch gyfle i awgrymu unrhyw newidiadau.
Cewch hyd at ddydd Gwener, 21 Rhagfyr i’w gwblhau.
Edrychwn ymlaen at glywed eich barn 🙂
Gwych … Ddangoswch y arolwg
Digwyddiad galw heibio
Rydym hefyd yn cynnal digwyddiad galw heibio ddydd Mercher, 28 Tachwedd yn Neuadd y Dref (ystafell gyfarfod 3).
Felly, os hoffech rannu eich barn gyda swyddogion, galwch heibio rhwng 3pm a 6:30pm.