Rydym ni’n chwilio am rywun medrus a brwdfrydig i ymuno â’n Tîm Cynllunio a Chomisiynu (Gofal Cymdeithasol i Oedolion).

Mae’r tîm yn arwain gwaith comisiynu strategol yn yr Adran Gofal Cymdeithasol ac yn gyfrifol am ddatblygu prosiectau newid mawr.

Eisiau gwybod mwy – edrychwch ar ein gwefan.

Felly, rydym ni’n chwilio am rywun gyda phrofiad o reoli prosiectau ac sy’n gallu dangos dealltwriaeth o egwyddorion rheoli newid. Ai chi ydi’r person rydym ni’n chwilio amdano?

I gael rhagor o wybodaeth am y cyfle yma, edrychwch ar y swydd-ddisgrifiad llawn ar ein gwefan.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 5 Rhagfyr.

Ddangoswch y SWYDD

Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae’r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg.