Mae gweithio yn ein Tîm Gwasanaethau Digidol yn gyfle gwych i’r person cywir…
Fel cyngor sydd am fod yn sefydliad digidol, gall y person cywir ein helpu ni i ganfod lle mae angen newid, chwarae rôl wrth weithredu’r newidiadau hynny, ac – yn bwysig – cael cyfle i arddangos eu dawn wrth wneud hynny.
Nid dim ond cadw pethau i fynd yw’r bwriad…mae gennym weledigaeth i fod yn awdurdod digidol, a dim ond pobl a fydd yn gwneud i bethau ddigwydd sydd eu heisiau arnom.
Ydi hyn yn swnio’n debyg i chi?
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Rheoli rhaglenni, prosiectau a newid!
Rydym yn chwilio am Swyddog Prosiect Digidol a Rheoli Newid i reoli darpariaeth rhaglenni, prosiectau a newidiadau digidol strategol ar draws yr awdurdod.
Mae angen unigolyn brwdfrydig a phenderfynol i ymuno â’n tîm prysur a blaengar ac i ychwanegu ato.
Oes gennych chi ddiddordeb? Darllenwch ymlaen…
Bydd angen i chi ddangos profiad o reoli prosiectau a bod yn gyfforddus wrth weithio ar nifer o brosiectau digidol lefel uchel gydag amrywiaeth o fudd-ddeiliaid.
Byddwch chi’n gweithio gyda gwahanol dimau ac adrannau, gan ddefnyddio’r gwasanaethau a phlatfformau digidol sydd ar gael i ni.
Mae profiad o fapio proses, ail-ddylunio prosesau a chreu ffurflen sy’n seiliedig ar y we yn hanfodol.
Mae rhagor o wybodaeth am beth rydym ni’n chwilio amdano i’w chael yn y swydd-ddisgrifiad llawn ar ein gwefan.
Y gwobrwyon
Peidiwch â chredu’r hyn rydych yn ei ddarllen. Gall gweithio yn y sector cyhoeddus roi llawer o foddhad… ac yn sicr nid yw’n ddiflas.
Mae llai o arian yn golygu fod rhaid i gynghorau fod yn fwy doeth ac arloesol yn y ffordd y maent yn darparu gwasanaethau… ac mae gan drawsnewid digidol ran fawr i’w chwarae yn hyn.
Felly mae digon o foddhad swydd i’w gael yn y swydd hon … digon o gwmpas i fod yn greadigol, yn dechnolegol a strategol.
Hefyd cewch fynediad at gynllun pensiwn da, lwfans gwyliau hael, gweithio’n hyblyg (gwych ar gyfer cydbwyso bywyd gwaith ac yn y cartref) a buddiannau eraill i weithwyr.
Sut i ymgeisio
I wneud cais, bydd angen i chi fynd i’n gwefan, lle gallwch hefyd weld ein swydd-ddisgrifiad llawn, a manylion cyswllt os ydych am gael sgwrs anffurfiol am y swydd.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos, dydd Sul, 4 Hydref.
DARGANFOD MWY/YMGEISIO