Mae’r blog hwn yn un o nifer o straeon y byddwn yn eu postio trwy gydol Wythnos Gwaith Ieuenctid 2019
Prosiect sy’n gweithio â phobl ifanc yw In2change sydd wedi’i leoli yn y Siop Wybodaeth. Maent yn cynnig gwasanaeth cyfrinachol i bobl ifanc 11-18 oed sy’n byw yn Wrecsam neu’n mynd i’r ysgol yno. Maent yn anelu i gefnogi pobl sy’n defnyddio cyffuriau neu alcohol, neu wedi eu defnyddio yn y gorffennol, neu’n bwriadu’n gwneud hynny.
Y nod yw grymuso pobl ifanc i wneud penderfyniadau gwybodus. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys amrywiaeth o ddulliau ymyrryd sy’n seiliedig ar anghenion a dymuniadau pob person ifanc.
Gall weithio gyda phobl ifanc gynnwys lleihau niwed, atal mynd yn ôl i hen arferion, gostyngiadau wedi’u cynllunio, cyflwyno / cynyddu gweithgareddau cymdeithasol, gweithgareddau dargyfeiriol, gwaith ar ddicter, cwsg, hylendid, hyder a hunan-barch. Mae In2Change hefyd yn darparu sesiynau addysg anffurfiol mewn ysgolion a grwpiau ieuenctid ynglŷn â phynciau sy’n ymwneud â chyffuriau ac alcohol.
Sylw gan berson ifanc,“Rwyf wedi gweld bod In2change yn help mawr imi pan oedd angen y cymorth arnaf. Wnaeth neb byth fy meirniadu i, ac roeddwn i bob amser yn teimlo eu bod nhw’n gofalu amdanaf yn dda a bod pethau’n symud ymlaen drwy’r amser. Dwi’n mwynhau gweithio gyda’r tîm, achos am y tro cyntaf ers talwm dwi’n teimlo mod i’n mynd i’r cyfeiriad iawn, o’r diwedd.”
Am ragor o wybodaeth am waith ieuenctid a gwasanaethau yn Wrecsam, ewch i Wrecsam Ifanc.
Derbyniwch y newyddion diweddaraf ar sgamiau, galw nôl cynnyrch a materion diogelu’r cyhoedd eraill
COFRESTRWCH FI RŴAN