Bydd amhariad ar yr A525 Ffordd Melin y Brenin o 29 Hydref, wrth i waith gwella wyneb y ffordd a’r llwybr troed gael ei gynnal.
Disgwylir i’r gwaith bara 7 diwrnod a bydd yn cynnwys cau’r lôn ar y ffordd allan o’r A525 Ffordd Melin y Brenin o’i chyffordd â Ffordd Salisbury hyd at y gyffordd â Stryt Albert. Caiff gyrwyr eu dargyfeirio drwy Ffordd Sir Amwythig, Dôl Yr Eryrod a Ffordd Darby, hyd at Ffordd Melin y Brenin heibio’r gwaith ffordd.
Caiff mynediad i gerddwyr a mynediad i draffig sy’n dod i mewn tua chanol y dref ei gynnal ar bob amser.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
O ddydd Llun 30 Hydref, bydd Ffordd Salisbury yn cau, o’i chyffordd â Ffordd Bennion drwy i’r A525. Bydd y ffordd wedi cau i’r ddau gyfeiriad.
Bydd dargyfeiriadau drwy Ffordd Salisbury, Stryt y Capel, Pen y Bryn a Ffordd Gyswllt San Silyn.
Caiff mynediad i eiddo a leolir yn yr ardaloedd eu cynnal bob amser ar gyfer traffig yn dilyn y llwybrau dargyfeirio.
Rydym yn gobeithio cadw’r amhariad mor isel â phosibl i’r rhai sy’n byw yn yr ardal, ac ni fydd y gwaith yn parhau ar ôl 7.00pm bob nos.
Dywedodd y Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Hoffem ymddiheuro am yr amhariad sydd i ddod i ddefnyddwyr y ffordd a’r rhai sy’n byw yn yr ardal. Mae’r gwaith yn hanfodol i adnewyddu’r ffordd i safon dderbyniol a gofynnwn am eich amynedd tra bydd yn cael ei gynnal.”
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau
COFRESTRWCH FI