Mae oriel Tŷ Pawb wedi cael ei drawsnewid yn faes chwarae antur enfawr fel rhan o’r arddangosfa newydd sbon, GWAITH-CHWARAE!
Ymwelodd 600 o bobl â’r oriel (yn llawn tywod!) ddydd Sadwrn i weld yr arddangosfa wedi’i hagor yn swyddogol gan Faer Wrecsam, y Cynghorydd Rob Walsh.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Dathliad o chwarae yn Wrecsam
GWAITH-CHWARAE yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng oedolion a phlant, ac ar greu cofnod i ddathlu gwaith chwarae radical ers yr 1970au ym meysydd chwarae antur byd-enwog Wrecsam.
Craidd yr arddangosfa fydd tirlun chwarae, a gafodd ei ddylunio a’i godi mewn proses ar y cyd rhwng yr artistiaid, Ludicology, staff Tŷ Pawb a Thîm Cefnogi Chwarae ac Ieuenctid a meysydd chwarae antur Wrecsam. O fewn y tirlun chwarae bydd gwaith comisiwn newydd gan Morag Colquhoun, sydd wedi creu tecstilau yn arbennig ar gyfer ‘darnau chwarae’ rhyngweithiol.
Bydd gweithiau celf ceirt gwthio ymarferol a gynlluniwyd gan Gareth Griffith wedi eu cynnwys hefyd. Mae’r ceirt wedi eu creu gan blant a staff o brosiectau gwaith chwarae Wrecsam. Yn ogystal, bydd ‘The Voice of Children’, ffilm gan gydweithredfa Assemble sydd wedi ennill Gwobr Turner yn cael ei arddangos yn yr oriel.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Gall bob un ohonom ddeall yr angen i chwarae. Bydd y gwaith gwych sy’n mynd yn ei flaen yn Wrecsam i gynnig darpariaeth chwarae i’n plant yn dod â balchder aruthrol i’r rhanbarth. Bydd yr arddangosfa hon yn dathlu’r cynlluniau hynny ynghyd â gwaith gwych Assemble, Morag, Gareth a Ludicology.
Dewch i chwarae!
Mae’n edrych fel bod yr arddangosfa wedi bod yn boblogaidd iawn gyda’r plant yn barod! Beth am alw heibio i weld drosoch eich hun?
Bydd GWAITH-CHWARAE yn cael ei arddangos yn Tŷ Pawb o Awst 10-Hydref 27.
Ariennir yr arddangosfa gan Gyngor Celfyddydau Cymru a’r Celfyddydau a Busnes Cymru. Fe’i noddir gan gwmni lleol Wrecsam, Grosvenor ApTec Ltd.