Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Amser chwarae! Cannoedd yn mynychu lansiad arddangosfa newydd Tŷ Pawb …
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Amser chwarae! Cannoedd yn mynychu lansiad arddangosfa newydd Tŷ Pawb …
Pobl a lle

Amser chwarae! Cannoedd yn mynychu lansiad arddangosfa newydd Tŷ Pawb …

Diweddarwyd diwethaf: Awst 10, 2019 7:46 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Amser chwarae! Cannoedd yn mynychu lansiad arddangosfa newydd Tŷ Pawb ...
RHANNU

Mae oriel Tŷ Pawb wedi cael ei drawsnewid yn faes chwarae antur enfawr fel rhan o’r arddangosfa newydd sbon, GWAITH-CHWARAE!

Cynnwys
  • Dathliad o chwarae yn Wrecsam
  • Dewch i chwarae!

Ymwelodd 600 o bobl â’r oriel (yn llawn tywod!) ddydd Sadwrn i weld yr arddangosfa wedi’i hagor yn swyddogol gan Faer Wrecsam, y Cynghorydd Rob Walsh.

PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…

Amser chwarae! Cannoedd yn mynychu lansiad arddangosfa newydd Tŷ Pawb ...
Amser chwarae! Cannoedd yn mynychu lansiad arddangosfa newydd Tŷ Pawb ...
Amser chwarae! Cannoedd yn mynychu lansiad arddangosfa newydd Tŷ Pawb ...

Dathliad o chwarae yn Wrecsam

GWAITH-CHWARAE yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng oedolion a phlant, ac ar greu cofnod i ddathlu gwaith chwarae radical ers yr 1970au ym meysydd chwarae antur byd-enwog Wrecsam.

Craidd yr arddangosfa fydd tirlun chwarae, a gafodd ei ddylunio a’i godi mewn proses ar y cyd rhwng yr artistiaid, Ludicology, staff Tŷ Pawb a Thîm Cefnogi Chwarae ac Ieuenctid a meysydd chwarae antur Wrecsam. O fewn y tirlun chwarae bydd gwaith comisiwn newydd gan Morag Colquhoun, sydd wedi creu tecstilau yn arbennig ar gyfer ‘darnau chwarae’ rhyngweithiol.

Bydd gweithiau celf ceirt gwthio ymarferol a gynlluniwyd gan Gareth Griffith wedi eu cynnwys hefyd. Mae’r ceirt wedi eu creu gan blant a staff o brosiectau gwaith chwarae Wrecsam. Yn ogystal, bydd ‘The Voice of Children’, ffilm gan gydweithredfa Assemble sydd wedi ennill Gwobr Turner yn cael ei arddangos yn yr oriel.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Gall bob un ohonom ddeall yr angen i chwarae. Bydd y gwaith gwych sy’n mynd yn ei flaen yn Wrecsam i gynnig darpariaeth chwarae i’n plant yn dod â balchder aruthrol i’r rhanbarth. Bydd yr arddangosfa hon yn dathlu’r cynlluniau hynny ynghyd â gwaith gwych Assemble, Morag, Gareth a Ludicology.

Dewch i chwarae!

Mae’n edrych fel bod yr arddangosfa wedi bod yn boblogaidd iawn gyda’r plant yn barod! Beth am alw heibio i weld drosoch eich hun?

Bydd GWAITH-CHWARAE yn cael ei arddangos yn Tŷ Pawb o Awst 10-Hydref 27.

Ariennir yr arddangosfa gan Gyngor Celfyddydau Cymru a’r Celfyddydau a Busnes Cymru. Fe’i noddir gan gwmni lleol Wrecsam, Grosvenor ApTec Ltd.

Dilynwch Tŷ Pawb ar:
Facebook
Twitter
Instagram

Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

Rhannu
Erthygl flaenorol Sinema 73 yn Lansio’n Swyddogol yn Tŷ Pawb Sinema 73 yn Lansio’n Swyddogol yn Tŷ Pawb
Erthygl nesaf surgery to waterloo Sgiliau Cynhwysol – Credyd Cynhwysol a Pharu â Swyddi

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.

Medi 2, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English