Mynwent Wrecsam, ar Ruabon Road, yw un o dirnodau mwyaf trawiadol a hanesyddol y fwrdeistref sirol.
Fe’i dyluniwyd yn wreiddiol i bobl fwynhau cerdded trwyddi, ac mae’r gerddi wedi cadw llawer o’u dyluniad a phlanhigion Fictoraidd gwreiddiol.
Yn ystod mis Hydref a mis Tachwedd, mae nifer o ddigwyddiadau a sesiynau yn cael eu cynnal yn y fynwent, gan roi cyfle i chi ddysgu mwy amdani neu ddysgu sgil newydd ar gyfer tymor y Nadolig. Felly, edrychwch ar y rhestr isod:
21 Hydref
Taith Gerdded Hanes ym Mynwent Wrecsam
Taith gerdded â thema hanesyddol o amgylch rhannau hŷn y Fynwent. Cyfarfod ger y panel gwybodaeth ger y Capeli am 1pm.
GALL Y DDAU GAM SYML YMA TROI CHI MEWN I ARCHARWR AILGYLCHU!
3 Tachwedd
Taith Gerdded Beddau Pwylaidd ym Mynwent Wrecsam
Dewch i ddysgu mwy am y 1000 o bobl o Wlad Pwyl a roddwyd i orffwys yn y fynwent, llawer ohonynt wedi ymladd ochr yn ochr â milwyr Prydain yn yr Ail Ryfel Byd.
11 Tachwedd
Dydd y Cofio ym Mynwent Wrecsam
Digwyddiad i nodi diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf ac i gofio’r rhai sydd wedi’u claddu a’u cofio ym Mynwent Wrecsam.
Os hoffech ddod i unrhyw un o’r digwyddiadau hyn, gallwch ffonio swyddog datblygu’r fynwent ar 07753 771645 i gael rhagor o wybodaeth neu i archebu lle.
Sut i fod yn archarwr ailgylchu…mewn dau gam syml.
DERBYNIWCH AWGRYMIADAU AILGYLCHU