Ydych chi’n teithio i ac o Wrecsam?
Mae newyddion ardderchog i gludiant rheilffordd yn y rhanbarth, a fydd yn gwella amseroedd teithiau ac amlder y gwasanaeth.
Mewn cyfarfod budd-ddeiliad diweddar yn Llandudno, cyhoeddodd Gwasanaethau Trên Trafnidiaeth Cymru eu cynlluniau newydd ar gyfer masnachfraint newydd i Gymru a’r Gororau.
GALL Y DDAU GAM SYML YMA TROI CHI MEWN I ARCHARWR AILGYLCHU!
Bydd trenau dosbarth 230 ar Lein y Gororau o Wrecsam i Bidston yn 2019, a bydd gwelliannau i amseroedd teithiau o ganlyniad i hynny.
Mae cynlluniau mewn lle hefyd i gynyddu amlder y gwasanaeth o un i ddau drên yr awr o 2021.
Ar Lein Caer-Wrecsam-Amwythig, bydd unedau lluosog disel yn gweithredu o 2022, gan roi mwy o seddi a mwy o le ar gyfer beiciau. Bydd amlder y gwasanaeth o Gaer i Amwythig yn dyblu o fis Rhagfyr 2022. Bydd amlder y gwasanaeth ar ddydd Sul hefyd yn gwella erbyn 2025.
Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym yn falch iawn o glywed cynlluniau Trafnidiaeth Cymru ar gyfer y rheilffyrdd o amgylch Wrecsam, yn arbennig y cynnydd mewn gwasanaethau trên ar y ddwy lein, yr ydym ni yn Wrecsam wedi bod yn ei lobïo trwy ein Grŵp Cludiant Strategol.
Mae hyn, ynghyd a’r bwriad o ddarparu cerbydau o ansawdd, yn arwain at welliannau arwyddocaol i’r gwasanaeth. Rwy’n falch bod ein gwaith a’n lobïo wedi talu’i ffordd.
Ychwanegodd: “Edrychwn ymlaen hefyd i archwilio’r gyfnewidfa amlfodd sydd wedi’i gynllunio ar gyfer Gorsaf Cyffredinol Wrecsam, ac ymrwymiad Trafnidiaeth Cymru i wella hygyrchedd a mynediad heb risiau mewn gorsafoedd.”
Mae cynlluniau eraill yn cynnwys gweithredu Cynllun Datblygu Masnachol a Chymdeithasol ar gyfer bob gorsaf, wedi’i gefnogi gan gyllid buddsoddiad rhwydwaith gyfan, i gefnogi prosiectau cymunedol mewn gorsafoedd.
Bydd Wi-Fi am ddim mewn holl orsafoedd erbyn 2020, a theledu cylch caeedig wedi’u monitro erbyn mis Mawrth 2023. Maent hefyd yn bwriadu cefnogi’r pum Partneriaeth Rheilffordd Cymunedol bresennol a datblygu partneriaethau pellach ar draws Cymru a’r Gororau.
Sut i fod yn archarwr ailgylchu…mewn dau gam syml.
DERBYNIWCH AWGRYMIADAU AILGYLCHU