Wyddoch chi fod problemau iechyd meddwl yn effeithio ar un o bob pedwar ohonom, ond eto mae gennym ofn siarad amdano?
Dyna pam ein bod yn gweithio gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau i ddod â digwyddiad “Amser Siarad” i Tŷ Pawb ddydd Mercher 13 Chwefror rhwng 11am a 2pm, a fydd yn eich annog i siarad ag eraill am iechyd meddwl a sut y gellir eich helpu a hefyd helpu eraill.
Bydd yna dros 20 o stondinau yn llawn gwybodaeth a chyngor a bydd yna hefyd sefydliadau wrth law i’ch helpu i wella eich iechyd meddwl a lles.
Meddai’r Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Mae’n bwysig ein bod yn cymryd amser i ofalu am ein hunain a bydd y digwyddiad hwn yn dwyn ynghyd sefydliadau iechyd meddwl gyda staff a fydd yn hapus i roi gwybodaeth ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Felly, galwch draw i weld beth sy’n digwydd a chymryd amser o weld os gall unrhyw rai o’r sefydliadau eich helpu chi.”
Gallwch gofrestru eich diddordeb mewn mynychu’r digwyddiad hwn yma
Mae mwy o wybodaeth am ymgyrch Amser Siarad 2019 ar gael yma.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22
YMGEISIWCH NAWR