Bydd awdur plant lleol Chris Wallace Brown yn galw yn Llyfrgell y Waun yn ystod hanner tymor yr Hydref!
Mae straeon Chris ar gyfer plant dros 8 oed a hŷn, ond mae croeso i blant o bob oed. Felly galwch heibio i glywed am y Navidids – y cymeriadau sy’n byw ar gamlas Llangollen!
OS YDYM NI’N CAEL SETLIAD GWAEL, BYDD YN RHAID I NI YSTYRIED TORIADAU PELLACH. DWEUD EICH DWEUD…
Mae Chris yn awdur sy’n cyhoeddi ei hun a dechreuodd drwy ddweud straeon wrth ei blant pan oeddent yn ifanc. Yna ysgrifennodd straeon am bethau doniol ddigwyddodd iddo pan oedd yn gweithio ar y camlesi.
Mae paentio a micro-gyhoeddi hefyd ymysg sgiliau Chris a bydd hefyd yn gwerthu ei lyfrau a’i grefftau ac yn rhoi rhodd i Ambiwlans Awyr pan fydd yn dod i’r Waun.
Cynhelir y sesiwn arbennig hon ddydd Gwener, 1 Tachwedd o 2.30pm ymlaen ac mae’n rhad ac am ddim.
Os ydym ni’n cael setliad gwael, bydd yn rhaid i ni ystyried toriadau pellach. Dweud eich dweud.
DWEUD EICH DWEUD