Yn 2023, cafodd dros £2.5 miliwn ei ddyfarnu i fwy na 50 o fusnesau a phrosiectau cymunedol yn Wrecsam ac rydym bellach yn derbyn ceisiadau ar gyfer tri chynllun grant arall ac mae cyfanswm o £1 miliwn ar gael.
Bu i gynlluniau grant y Gronfa Ffyniant Gyffredin ailagor ar 22 Ionawr, a gallwch nawr fynegi diddordeb yn y categorïau canlynol. (Mae meini prawf cymhwysedd a chanllawiau ar gyfer pob grant yn unigol):
- Bydd y Gronfa Allweddol Lluosi yn cefnogi prosiectau sydd â’r nod o wella sgiliau rhifedd ar gyfer oedolion 19+ oed nad ydynt wedi ennill cymhwyster mathemateg Lefel 2/SCQF Lefel 5 neu uwch (cyfwerth â TGAU Gradd C/4). Mae’r cynllun yn cynnig rhwng £10,000 a £200,000 o gyllid i gefnogi prosiectau
- Bydd y Gronfa Allweddol Pobl a Sgiliau yn cefnogi prosiectau sy’n helpu oedolion i wella eu sgiliau Mathemateg a TGCh, ac yn eu symud yn agosach at gael gwaith. Mae’n cynnig rhwng £3,000 a £125,000 o gyllid
- Bydd y Gronfa Allweddol Cymunedau a Lle yn cefnogi prosiectau cymunedol sy’n cryfhau balchder lleol, gan gynnwys digwyddiadau a gweithgareddau, mynediad at amwynderau lleol, a gwelliannau i gyfleusterau lleol a mannau agored. Bydd hefyd yn cefnogi dulliau arloesol o atal troseddu a diogelwch cymunedol ac yn cynnig rhwng £3,000 a £125,000 o gyllid
Mae’r grantiau hyn ar gael i ystod o sefydliadau, grwpiau, elusennau a busnesau yn Wrecsam. Meddai’r Cynghorydd Mark Pritchard, arweinydd Cyngor Wrecsam ac aelod arweiniol cyllid: “Mae hyn yn newyddion gwych ac rydym eisiau i fusnesau, grwpiau a sefydliadau lleol gymryd mantais lawn ohono.
“Os oes gennych brosiect a allai fod o fudd i Wrecsam a’ch cymuned, edrychwch ar y meini prawf ac ystyriwch gyflwyno cais.
“Rydym eisiau i’r arian hwn weithio’n galed i Wrecsam, ac felly rydym angen clywed gan bobl sydd â syniadau da a all wir wneud gwahaniaeth.
“Nid yw cyfleoedd o’r fath yn codi’n aml – sicrhewch nad ydych chi’n colli’r cyfle i wneud cais am y grantiau hyn.”
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen Cronfeydd Allweddol Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar wefan y Cyngor.
Bydd Cyngor Wrecsam yn cynnal gweminar awr o hyd ar 23 Ionawr am 1pm er mwyn rhannu mwy o fanylion gyda chi am y grantiau a sut y gallwch wneud cais. I gael dolen ar gyfer ymuno, anfonwch e-bost at spfkeyfundgrants@wrexham.gov.uk.