Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Angen miloedd yn fwy o weithwyr gofal yng Nghymru erbyn 2030
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Tŷ Pawb i gynnal Parth Cefnogwyr Teuluol i Ferched Cymru yn Ewro 2025 ddydd Sadwrn yma!
Tŷ Pawb i gynnal Parth Cefnogwyr Teuluol i Ferched Cymru yn Ewro 2025 ddydd Sadwrn yma!
Digwyddiadau Pobl a lle
Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam
Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam
Y cyngor
Food Waste Recycling Caddy
Awgrymiadau defnyddiol i gadw’ch cadi bwyd yn ffres yr haf hwn
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor
Gwybodaeth
Oedi mewn casgliadau biniau oherwydd tân mewn gwaith ailgylchu
Y cyngor
Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr
Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Angen miloedd yn fwy o weithwyr gofal yng Nghymru erbyn 2030
Pobl a lleY cyngor

Angen miloedd yn fwy o weithwyr gofal yng Nghymru erbyn 2030

Diweddarwyd diwethaf: 2019/03/05 at 3:50 PM
Rhannu
Darllen 8 funud
Angen miloedd yn fwy o weithwyr gofal yng Nghymru erbyn 2030
RHANNU

Bydd angen miloedd yn fwy o bobl i weithio mewn rolau gofalu gydag oedolion a phlant yng Nghymru erbyn 2030 er mwyn bodloni’r galw cynyddol am wasanaethau gofal a darparu cymorth i gymunedau ledled y wlad.

I helpu i ddenu mwy o bobl i weithio mewn gofal, mae ymgyrch genedlaethol o’r enw Gofalwn wedi’i lansio heddiw.

Mae’r ymgyrch yn gydweithrediad rhwng Gofal Cymdeithasol Cymru a sefydliadau arweiniol sy’n cynrychioli’r sectorau gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru, ynghyd â chyrff cenedlaethol eraill sy’n ymwneud â chwilio am waith a chyngor gyrfaol.

GWNEWCH GAIS AM GLUDIANT I’R YSGOL YM MIS MEDI RŴAN!

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Mae’n rhan o strategaeth hirdymor i ddatblygu’r gweithluoedd yn y sectorau gofal ac iechyd dros y ddegawd nesaf er mwyn cynnig gwasanaeth di-dor o ansawdd uchel i bobl Cymru.

Bydd yr ymgyrch yn tynnu sylw at yr amrywiaeth o gyfleoedd gyrfaol mewn gofal, o warchodwyr plant ac ymarferwyr meithrin i gydlynwyr gofal cartref a rheolwyr cartrefi gofal.

Wrth i fwy o bobl yng Nghymru fyw’n hirach, bydd gan fwy anghenion penodol a bydd angen cymorth arnynt yn eu cartrefi a’r tu allan iddynt. Mae rhagolygon yn nodi y bydd angen o gwmpas 20,000 yn fwy o weithwyr dros y 10 mlynedd nesaf i ateb galw cynyddol y boblogaeth.

Ar hyn o bryd, mae tua un o bob 17 oedolyn yng Nghymru yn gweithio mewn gofal cymdeithasol neu’r blynyddoedd cynnar a gofal plant (tua 113,000 o bobl), sy’n golygu bod y maes yn gyflogwr mwy na’r GIG. Ond mae’r maes gwaith hwn yn tyfu o hyd.

Nod yr ymgyrch Gofalwn yw tynnu sylw at yr amrywiaeth o rolau a chyfleoedd datblygu gyrfa sydd ar gael. Drwy ddefnyddio gweithwyr gofal go iawn, mae’r ymgyrch yn canolbwyntio ar yr heriau y maent yn eu hwynebu, ynghyd â’r hyn sy’n gwneud eu gwaith yn werth chweil.

Mae Aled Burkitt yn gweithio fel gweithiwr gofal a chymorth i bobl sy’n byw gyda dementia. Meddai: “Ro’n i’n arfer gweithio oriau eithaf anghymdeithasol fel cogydd. Ond pan gafodd fy mab ei eni, roedd angen rhywbeth mwy hyblyg arna’ i.

“Roedd gan fy nhad-cu ddementia ac fe welais sut cafodd ei gefnogi gan ei ofalwyr, a’r berthynas oedd rhyngddyn nhw. Ro’n i’n meddwl y basen i’n dda am y gwaith a dwi nawr yn cefnogi pobl sy’n byw gyda dementia yn y gymuned.

“Mae’n anodd weithiau. Mae’n ymwneud ag adeiladau perthnasau a gweithio allan sut y gallwch adeiladu ffydd. Ond mae cerdded i mewn i ymweliad cynta’r dydd a gweld gwên fawr ar wynebau’r bobl rwy’n eu cefnogi yn amhrisiadwy.”

Mae Amanda Calloway wedi bod yn gweithio fel gwarchodwr plant ers 12 mlynedd. Meddai: “Ro’n i’n arfer gweithio mewn bancio, ac roedd fy rôl yn achosi tipyn o straen, ond ar ôl cael fy mhlant penderfynais fod yn warchodwr plant dros dro.

“Ddeuddeg mlynedd yn ddiweddarach, dwi yma o hyd. Mae wedi fy ngalluogi i astudio ochr yn ochr â rhedeg fy musnes oherwydd dwi’n gweithio o gartref ac mae’n ddigon hyblyg i ffitio o gwmpas fy mywyd.

“Dwi’n mwynhau rhedeg a bod yn yr awyr agored, felly dwi’n mynd â’r plant i’r warchodfa natur, i’r goedwig neu i’r traeth gymaint â phosibl. Mae’n yrfa werth chweil, er ei bod yn waith caled hefyd. Mae’n wych cael y cyfle i siapio dyfodol bywydau plant.”

Dywedodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Yng Nghymru, rydym yn ffodus i gael tîm o weithwyr ymrwymedig iawn yng ngofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant sy’n mynd cam ymhellach pob dydd. O ofalu a helpu ein plant ieuengaf i ddatblygu a ffynnu, i ddarparu cymorth a gofal tosturiol i oedolion a phobl hŷn, maent yn gwneud newid enfawr i fywydau pobl. Ond, rydym angen mwy o bobl i gysidro’r gyrfaoedd gwerth chweil hyn.

“Dyma pam rydw i wrth fy modd yn cefnogi’r ymgyrch newydd Gofalwn. Mae wedi ei gynllunio i arddangos y cyfleoedd gall gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant eu cynnig i rheiny â’r sgiliau a’r rhinweddau gofalu cywir, a’r gymorth sydd ar gael i’w helpu i ddatblygu a magu eu sgiliau i gefnogi pobl i fyw bywydau llawn a gweithgar.

“Rwy’n ddiolchgar i Ofal Cymdeithasol Cymru a’i phartneriaid, yn enwedig gweithwyr gofal sydd wedi rhannu eu profiadau, am eu gwaith ar yr ymgyrch. Rwy’n gobeithio bydd ei straeon yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ofalwyr, gweithwyr gofal plant, gofalwyr plant a chynorthwywyr gofal.”

Dywedodd Sue Evans, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru: “Yng Nghymru, mae tua 90,000 o bobl yn gweithio mewn gofal cymdeithasol, tra bod 23,000 yn gweithio yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant. Fodd bynnag, mae angen mwy o bobl arnom o hyd i fodloni anghenion a disgwyliadau cymdeithas dros y 10 mlynedd nesaf.

“Gall gweithio mewn gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant fod yn heriol, ond mae hefyd yn hynod o werth chweil. Mae’r ymgyrch Gofalwn wedi’i datblygu i ddenu’r bobl gywir i gefnogi rhai o aelodau mwyaf bregus ein cymunedau neu i helpu i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf.

“Mae yna amrywiaeth o rolau ar gael yn gweithio gydag oedolion a phlant, ynghyd â chyfleoedd i ennill cymwysterau wrth weithio a datblygu gyrfaoedd. Mae cymwysterau newydd mewn iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant yn cael eu lansio o fis Medi eleni ac mae’r ymgyrch hon yn rhan o gynllun ehangach i sicrhau bod gennym weithlu ar draws y gwasanaethau gofal ac iechyd a fydd yn bodloni anghenion pobl Cymru yn y dyfodol.”

I gael rhagor o wybodaeth am y rolau sydd ar gael a chyflogwyr lleol yn y sectorau gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant, ewch i Gofalwn.cymru. Bydd y wefan yn cael ei ddiweddaru’n gyson gyda mwy o fanylion a gwybodaeth ddefnyddiol.
DIWEDD –

Angen miloedd yn fwy o weithwyr gofal yng Nghymru erbyn 2030
Angen miloedd yn fwy o weithwyr gofal yng Nghymru erbyn 2030
Angen miloedd yn fwy o weithwyr gofal yng Nghymru erbyn 2030
Angen miloedd yn fwy o weithwyr gofal yng Nghymru erbyn 2030
Angen miloedd yn fwy o weithwyr gofal yng Nghymru erbyn 2030

A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan

GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN

Rhannu
Erthygl flaenorol Ysbyty Llannerch Banna: Hanes Cymuned Bwylaidd yng Nghymru Ysbyty Llannerch Banna: Hanes Cymuned Bwylaidd yng Nghymru
Erthygl nesaf Gwnewch gais rŵan am gludiant i’r ysgol ym mis Medi Gwnewch gais rŵan am gludiant i’r ysgol ym mis Medi

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Tŷ Pawb i gynnal Parth Cefnogwyr Teuluol i Ferched Cymru yn Ewro 2025 ddydd Sadwrn yma!
Tŷ Pawb i gynnal Parth Cefnogwyr Teuluol i Ferched Cymru yn Ewro 2025 ddydd Sadwrn yma!
Digwyddiadau Pobl a lle Gorffennaf 2, 2025
Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam
Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam
Y cyngor Gorffennaf 2, 2025
Food Waste Recycling Caddy
Awgrymiadau defnyddiol i gadw’ch cadi bwyd yn ffres yr haf hwn
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 1, 2025
Gwybodaeth
Oedi mewn casgliadau biniau oherwydd tân mewn gwaith ailgylchu
Y cyngor Gorffennaf 1, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Tŷ Pawb i gynnal Parth Cefnogwyr Teuluol i Ferched Cymru yn Ewro 2025 ddydd Sadwrn yma!
DigwyddiadauPobl a lle

Tŷ Pawb i gynnal Parth Cefnogwyr Teuluol i Ferched Cymru yn Ewro 2025 ddydd Sadwrn yma!

Gorffennaf 2, 2025
Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam
Y cyngor

Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam

Gorffennaf 2, 2025
Food Waste Recycling Caddy
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lleY cyngor

Awgrymiadau defnyddiol i gadw’ch cadi bwyd yn ffres yr haf hwn

Gorffennaf 1, 2025
Gwybodaeth
Y cyngor

Oedi mewn casgliadau biniau oherwydd tân mewn gwaith ailgylchu

Gorffennaf 1, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English